Liz Truss
|
---|
|
Ganwyd
| 26 Gorffennaf 1975
Rhydychen
|
---|
Man preswyl
| Thetford
, Burnaby
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Lloegr
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, cyfrifydd
|
---|
Swydd
| Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Arglwydd Ganghellor, Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau, Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Llywydd y Bwrdd Masnach, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Arweinydd y Blaid Geidwadol,
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
, Prif Arglwydd y Trysorlys, Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, Gweinidog dros yr Undeb, president of the Oxford University Liberal Democrats
|
---|
Adnabyddus am
| Britannia Unchained
|
---|
Prif ddylanwad
| Margaret Thatcher
|
---|
Taldra
| 165.7 centimetr
|
---|
Plaid Wleidyddol
| y Blaid Geidwadol
,
y Democratiaid Rhyddfrydol
|
---|
Tad
| John Truss
|
---|
Mam
| Priscilla Mary Grasby
|
---|
Priod
| Hugh O'Leary
|
---|
Gwefan
| https://www.elizabethtruss.com
|
---|
llofnod
|
---|
|
Gwleidydd Prydeinig yw
Mary Elizabeth "Liz" Truss
(ganwyd
26 Gorffennaf
1975
)
[1]
a fu'n
brif weinidog y Deyrnas Unedig
rhwng 6 Medi 2022 a 25 Hydref 2022, y cyfnod lleiaf yn y swydd yn hanes y DU. Roedd hi'n aelod o'r
Cabinet
o dan y prif weinidogion
David Cameron
,
Theresa May
a
Boris Johnson
. Roedd hi'n ysgrifennydd tramor rhwng 2021 a 2022. Mae Truss wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros
Dde Orllewin Norfolk
ers 2010.
Cafodd Truss ei geni yn
Rhydychen
, lle bu'n arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol
Prifysgol Rhydychen
. Roedd ei thad mewn trallod pan ymunodd a'r Blaid Geidwadol. Roedd ei mam yn aelod o'r
CND
, ond cytunodd i gefnogi ymgyrch ei merch i ddod yn AS.
[2]
[3]
Cyhoeddodd ei hymddiswyddiad fel prif weinidog ar 20 Hydref 2022, ar ol 45 diwrnod yn y swydd, ond parhaodd yn y swydd nes i'w olynydd ei dewis.
[4]
[5]
Hi oedd y prif weinidog oedd yn y swydd am y cyfnod byrraf yn hanes y Deyrnas Unedig.
[6]
Ar 24 Hydref 2022 etholwyd
Rishi Sunak
fel ei olynydd, yn arweinydd
y Blaid Geidwadol
, a daeth yn Brif Weinidog y diwrnod canlynol.
[7]