System o ysgrifennu rhifau gan ddefnyddio llythrennau'r
wyddor Ladin
yw
system rhifolion Rhufeinig
.
Tarddodd y system yn
Rhufain hynafol
ac a pharhaodd fel y ffordd arferol o ysgrifennu rhifau ledled Ewrop ymhell i'r
Oesoedd Canol Diweddar
.
Parhawyd i ddefnyddio rhifolion Rhufeinig ymhell ar ol dirywiad
yr Ymerodraeth Rufeinig
. O'r 14g ymlaen, dechreuwyd eu disodli yn y mwyafrif o gyd-destunau gan
rhifolion Arabaidd
, sy'n fwy cyfleus. Fodd bynnag, graddol oedd y broses hon, ac mae rhifolion Rhufeinig yn dal i gael eu defnyddio mewn rhai cyd-destunau penodol hyd heddiw.
Cynrychiolir niferoedd yn y system gan gyfuniadau o lythrennau o'r wyddor Ladin. Mae defnydd modern yn cyflogi saith symbol, pob un a gwerth cyfanrif sefydlog:
Symbol
|
I
|
V
|
X
|
L
|
C
|
D
|
M
|
Gwerth
|
1
|
5
|
10
|
50
|
100
|
500
|
1,000
|
Darllenir rhifolion Rhufeinig o'r chwith i'r dde. Os dilynir symbol gan symbol arall sydd a'r un gwerth, neu os yw'n cael ei ddilyn gan symbol a gwerth is, yna mae'n cael ei ychwanegu at y cyfanswm; e.e.
- III = 1 + 1 + 1 = 3
- VI = 5 + 1 = 6
- LXXXII = 50 + 10 + 10 + 1 + 1 = 82
- CCI = 100 + 100 + 1 = 201
- MMXV = 1,000 + 1,000 + 10 + 5 = 2015
Fodd bynnag, os dilynir symbol gyda symbol a gwerth uwch, yna caiff ei dynnu o'r cyfanswm; e.e.
- IV = -1 + 5 = 4
- IX = -1 + 10 = 9
- XXIX = 10 + 10 - 1 + 10 = 29
- XIV = 10 - 1 + 5 = 14
- CXLVII = 100 - 10 + 50 + 5 + 1 + 1 = 147
Hynny yw, os yw I yn mynd o flaen V neu X, neu os yw X yn mynd o flaen L neu C, neu os yw C yn mynd o flaen D neu M, yna mae'r symbol gwerth is yn cael ei dynnu o'r cyfanswm. Dyma'r unig dynnu "swyddogol" sy'n digwydd. Felly, ni chaniateir tynnu I o L, C, D neu M. (Dylid ysgrifennu 49 fel XLIX ac nid fel IL; dylid ysgrifennu 99 fel XCIX ac nid fel IC; dylid ysgrifennu 1999 fel MCMXCIX ac nid fel MIM.) Fodd bynnag, dros 2,000 o flynyddoedd o ddefnydd, darganfyddir eithriadau i'r system o bryd i'w gilydd.
Y niferoedd o 1 i 99 fel rhifolion Rhufeinig
[
golygu
|
golygu cod
]
|
1
|
2
|
3
|
4
|
5
|
6
|
7
|
8
|
9
|
|
I
|
II
|
III
|
IV
|
V
|
VI
|
VII
|
VIII
|
IX
|
10
|
11
|
12
|
13
|
14
|
15
|
16
|
17
|
18
|
19
|
X
|
XI
|
XII
|
XIII
|
XIV
|
XV
|
XVI
|
XVII
|
XVIII
|
XIX
|
20
|
21
|
22
|
23
|
24
|
25
|
26
|
27
|
28
|
29
|
XX
|
XXI
|
XXII
|
XXIII
|
XXIV
|
XXV
|
XXVI
|
XXVII
|
XXVIII
|
XXIX
|
30
|
31
|
32
|
33
|
34
|
35
|
36
|
37
|
38
|
39
|
XXX
|
XXXI
|
XXXII
|
XXXIII
|
XXXIV
|
XXXV
|
XXXVI
|
XXXVII
|
XXXVIII
|
XXXIX
|
40
|
41
|
42
|
43
|
44
|
45
|
46
|
47
|
48
|
49
|
XL
|
XLI
|
XLII
|
XLIII
|
XLIV
|
XLV
|
XLVI
|
XLVII
|
XLVIII
|
XLIX
|
50
|
51
|
52
|
53
|
54
|
55
|
56
|
57
|
58
|
59
|
L
|
LI
|
LII
|
LIII
|
LIV
|
LV
|
LVI
|
LVII
|
LVIII
|
LIX
|
60
|
61
|
62
|
63
|
64
|
65
|
66
|
67
|
68
|
69
|
LX
|
LXI
|
LXII
|
LXIII
|
LXIV
|
LXV
|
LXVI
|
LXVII
|
LXVIII
|
LXIX
|
70
|
71
|
72
|
73
|
74
|
75
|
76
|
77
|
78
|
79
|
LXX
|
LXXI
|
LXXII
|
LXXIII
|
LXXIV
|
LXXV
|
LXXVI
|
LXXVII
|
LXXVIII
|
LXXIX
|
80
|
81
|
82
|
83
|
84
|
85
|
86
|
87
|
88
|
89
|
LXXX
|
LXXXI
|
LXXXII
|
LXXXIII
|
LXXXIV
|
LXXXV
|
LXXXVI
|
LXXXVII
|
LXXVIII
|
LXXIX
|
90
|
91
|
92
|
93
|
94
|
95
|
96
|
97
|
98
|
99
|
XC
|
XCI
|
XCII
|
XCIII
|
XCIV
|
XCV
|
XCVI
|
XCVII
|
XCVIII
|
XCIX
|