Gwrthdaro rhwng pwerau cyfandirol Ewrop dros reolaeth
y Gymanwlad Bwylaidd?Lithwanaidd
oedd
Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl
a barodd o farwolaeth
y Brenin August II
ym 1733 i'r cadoediad ym 1735. Y prif gystadleuwyr dros yr orsedd oedd
Stanisław Leszczy?ski
, a gefnogwyd gan
Ffrainc
, ac August III gyda chefnogaeth
Rwsia
ac
Awstria
. Daeth y brwydro i ben yn Hydref 1735, a therfynwyd y rhyfel yn ffurfiol gan Gytundeb Heddwch Fienna ym 1738, a gydnabu August III yn wir Frenin Pwyl, ac ildiodd Stanisław Leszczy?ski ei hawl i'r goron.
[1]
Bu farw August II ar 1 Chwefror 1733, ac er iddo adael etifedd cyfreithlon, ei fab August, cafodd yr hwnnw ei herio gan yr ymhonnwr Stanisław Leszczy?ski, a deyrnasodd yn Frenin Stanisław I o 1704 i 1709 ac a fu'n alltud yn Ffrainc wedi iddo gael ei ddymchwel gan August II. Cefnogwyd Stanisław gan y Ffrancod gyda'r nod o wanychu'r
Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd
ac i ehangu dylanwad Ffrainc yn
Nwyrain Ewrop
Sicrhaodd August gefnogaeth
Siarl VI, Ymerawdwr Glan Rhufeinig
ac Archddug Awstria, drwy gytuno i'r
Datganiad Pragmatig
, a chytunodd hefyd i gydnabod hawl Rwsia i
Ddugiaeth Kurland
, gan ennill ffafr
yr Ymerodres Anna
. Ymgynullodd lluoedd Rwsia yng Ngwlad Pwyl felly, a disgwylid i'r bendefigaeth gadarnhau olyniaeth August heb fawr o st?r. Fodd bynnag, teithiodd Stanisław yn gudd i
Warsaw
, ac ar 12 Medi 1733 fe'i etholwyd yn frenin gan fwyafrif o'r uchelwyr yn y
Sejm
. Anogodd y Rwsiaid i garfan o gefnogwyr August ymhollti a chynnal etholiad arall, ac ar 5 Hydref 1733 fe'i cyhoeddwyd efe hefyd yn frenin. Cychwynnodd y rhyfel olyniaeth pan datganodd Ffrainc ryfel yn erbyn Awstria ac
Etholyddiaeth Sachsen
.
Datblygodd y gwrthdaro yn
rhyfel trwy ddirprwy
rhwng breninllinau'r
Bourboniaid
(Ffrainc a
Sbaen
gyda chefnogaeth
Safwy
a
Sardinia
) a'r
Hapsbwrgiaid
(Awstria, gyda'i chynghreiriaid Rwsia,
Prwsia
, a Sachsen). Yn ystod y brwydro, coronwyd August yn frenin yn
Krakow
ar 17 Ionawr 1734.
Wedi dwy mlynedd o frwydro, cytunwyd ar gadoediad yn Hydref 1735, ac ymddiorseddai Stanisław yn Ionawr 1736. Daeth y rhyfel i ben yn ffurfiol yn sgil arwyddo Cytundeb Fienna ym 1738, a gydnabu August II yn Frenin Pwyl. Cytunodd Stanisław Leszczy?ski i ildio'i hawl i'r goron, a derbyniodd
Ddugiaeth Lorraine
yn iawndal.
- John L. Sutton,
The King's Honor and the King's Cathedral: The War of the Polish Succession
(Lexington, Kentucky: The University Press of Kentucky, 1980).