Plaid Gomiwnyddol Tsieina

Oddi ar Wicipedia
Arwyddlun Plaid Gomiwnyddol Tsieina

Plaid wleidyddol yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw Plaid Gomiwnyddol Tsieina . Sefydlwyd ym 1921, ac ym 1949 trechodd y Kuomintang gan ennill Rhyfel Cartref Tsieina . Mae'r blaid wedi llywodraethu Gweriniaeth Pobl Tsieina ers hynny. [1]

Aelodaeth [ golygu | golygu cod ]

Hon yw'r blaid wleidyddol fwyaf yn y byd, a chanddi 86.7 miliwn o aelodau. [2] Mae ei haelodau yn bennaf yn swyddogion y llywodraeth, swyddogion y fyddin, ffermwyr, a gweithwyr cwmniau dan berchenogaeth y wladwriaeth. Dim ond tua chwarter o'r aelodau sy'n fenywod. [3]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Saesneg)   Chinese Communist Pary (CCP) . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 5 Awst 2014.
  2. (Saesneg)   China’s Communist Party Reports First New Member Drop in Decade . Bloomberg (30 Mehefin 2014). Adalwyd ar 5 Awst 2014.
  3. (Saesneg)   How China is ruled: Communist Party . BBC (8 Hydref 2012). Adalwyd ar 5 Awst 2014.