Paul Gauguin
|
---|
|
Ganwyd
| Eugene Henri Paul Gauguin
7 Mehefin 1848
Paris
|
---|
Bu farw
| 8 Mai 1903
o
Syffilis
Atuona, Fatu-Hiva
|
---|
Man preswyl
| Frederiksberg, Nørregade,
Paris
,
Tahiti
|
---|
Dinasyddiaeth
| Ffrainc
|
---|
Alma mater
| - lycee Pothier
|
---|
Galwedigaeth
| arlunydd, cerflunydd, arlunydd graffig, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, seramegydd,
darlunydd
, artist
|
---|
Adnabyddus am
| The Yellow Christ, Manao tupapau, The Night Cafe in Arles, When Will You Marry?, Ia Orana Maria, Where Do We Come From? What Are We? Where Are We Going?, Tahitian Women on the Beach, Two Tahitian Women
|
---|
Arddull
| portread
, celf tirlun, figure, celf genre, bywyd llonydd
|
---|
Prif ddylanwad
| Hokusai
, Eugene Delacroix,
Paul Cezanne
,
Claude Monet
, Camille Pissarro, Edgar Degas
|
---|
Mudiad
| Ol-argraffiaeth, Pont-Aven School,
Symbolaeth (celf)
, synthetism,
Cloisonnisme
,
Argraffiadaeth
, cyntefigedd
|
---|
Tad
| Clovis Gauguin
|
---|
Mam
| Aline Chazal
|
---|
Priod
| Mette Sophie Gad
|
---|
Partner
| Teha'amana, Pau'ura a Tai, Vaeoho Marie-Rose, Juliette Huais
|
---|
Plant
| Clovis Gauguin, Jean Rene Gauguin, Pola Gauguin, Emile Gauguin, Emile Gauguin, Germaine Chardon
|
---|
Perthnasau
| Flora Tristan
|
---|
llofnod
|
---|
|
Arlunydd
ol-argraffiadol
Ffrengig
oedd
Eugene Henri Paul Gauguin
(
7 Mehefin
1848
?
8 Mai
1903
).
Heb fod yn adnabyddus yn ystod ei fywyd, fe'i gydnabuwyd yn ddiweddarach am ei ddefnydd mentrus o liw ac am herio syniadaeth celf Ewropeaidd gyfoes tra'n gweithio yn y Caribi ac Ynys Tahiti.
[1]
Bu'n ddylanwad mawr ar y genhedlaeth ganlynol o arlunwyr fel
Henri Matisse
,
Pablo Picasso
a
Georges Braque
a mudiadau fel Fauve ac
Mynegiadaeth
Almaeneg (German Expressionism).
Ganwyd i deulu rhyddfrydol a bu rhaid iddynt ddianc i
Periw
ym 1851 wedi
Coup d'etat
Napoleon III
pan roedd Paul ond yn 18 mis oed. Pan ddychwelon i Ffrainc fe'i astudiodd yn yr ysgol yn
Orleans
rhwng 1859 a 1865 cyn fynd yn forwr yn 17 oed.
Ym 1870 aeth i weithio yn y gyfnewidfa stoc ym Mharis ble fu'n dra llwyddiannus. Priododd a merch o
Ddenmarc
, Mette-Sophie Gad, a chafodd y cwpl bump o blant gan fyw bywyd bourgeois, cyffyrddus.
[1]
Dechreuodd Gauguin ymddiddori yn y byd celf, yn arbennig gwaith
Argraffiadaeth
(Ffrangeg:
Impressionnisme
) a oedd yn arddull newydd cyffrous ym Mharis y cyfnod.
Dechreuodd Gauguin wersi peintio gan arddangos gyda'r
impressionnistes
ac fe ddaeth i adnabod yr arlunwyr
Manet
,
Cezanne
,
Monet
a
Camille Pissarro
.
[1]
Yn 1882, fe'i gadawodd ei swydd i fod yn arlunydd llawn amser gan achosi problemau ariannol difrifol i'w deulu. Bu rhaid iddynt symud i fwy yng
Copenhagen
at deulu ei wraig cyn i Gauguin adael ei wraig a phlant yn llwyr i ddychwelyd i Ffrainc i beintio.
-
-
Pedair Llydawes yn dawnsio
, 1888 Neue Pinakothek - Munich.
-
Marchogion ar y traeth
, 1902
-
Fatata Te Miti
(ar lan y mor)
, 1892
Bu ei brofiad o fyw fel plentyn yn ne America a'i deithiau fel morwr yn ddylanwad mawr arno ac ym 1887 fe aeth i fyw ym
Panama
gan symud ymlaen i Ynys
Martinique
yn y Caribi.
Datblygodd Gauguin ymhellach ei arbrofion gyda lliwiau gan geisio adlewyrchu lliwiau llachar natur drofannol a chyfleu symbolaeth bywyd “cyntefig” y brodorion.
Roedd syniadau rhamantaidd o ddianc rhag “gwareiddiad” dinasoedd budron i fywyd mwy naturiol ymhlith pobloedd a ystyriwyd yn “gyntefig” yn ennyn poblogrwydd ymhlith llawer o ysgrifenwyr ac arlunwyr Ewropeaidd y cyfnod. Roedd diddordeb mawr yng nghelf pobloedd “egsotig” frodorol Affrica ac Asia gyda masgiau, cherfluniau a phrintiau'n cael eu cludo yn ol i Ewrop wedi i'r Ewropeaid gipio a choloneiddio eu tiroedd. Yn ddiweddarach adnabyddir Gauguin un o brif artistiaid y symudiad celfyddydol
Primitivisme
y cyfnod.
Pan ddychwelodd i Ewrop bu'n byw gyda gr?p o arlunwyr arbrofol ym
Mhont Aven
,
Llydaw
rhwng 1886 a 1891. Ym 1888 peintiodd gyda
Vincent van Gogh
ond arweiniodd eu cyfeillgarwch i ddadl gyda chyllell rhwng y ddau.
[2]
Ym 1891 hwyliodd Gaugain i Ynys
Tahiti
ac wedyn ynysoedd eraill Polynesia i ddianc “popeth sydd yn ffug ac yn gonfensiynol”
[3]
. Yno fe greodd rhai o'i luniau a cherfluniau mwyaf adnabyddus.
[1]
Yn dilyn rhai blynyddoedd hapus ym Mholynesia cafodd amseroedd anodd - yn sal gyda syffilis a heb arian. Cafodd broblemau gydag awdurdodau coloneiddiol Ffrangeg am ddadlau o blaid y bobl frodorol yr ynysoedd. Bu farw yn 1903.
[4]
Mae awydd Gauguin i ddarganfod delfryd amhosib ymhlith natur a bywyd pobl werin frodorol “syml ac egsotig” wedi'i feirniadu yn ddiweddarach fel esiamplau o agwedd hiliol a rhagfarnllyd pobl Ewropeaidd y cyfnod, yn arbennig y modd ecsbloetiodd Gauguin ferched ifanc Iawn am ei chwant rhywiol.
[5]
[6]
-
Y cerflunydd Aube a'i fab
, 1882, Amgueddfa'r Petit Palais, Paris
-
I Raro te Oviri
, 1891, Amgueddfa Celf Dallas
-
Vincent Van Gogh yn peintio blodau'r haul
, 1888, Amgueddfa Van Gogh, Amsterdam
-
Y Crist Melyn
, 1889, Amgueddfa Albright-Knox, Buffalo
-
Tair merch Lydewig yn dawnsio
, 1888, Amgueddfa Cenedlaethol Washington
-
Y Bugail Moch Llydewig
, 1888, LACMA, Los Angeles
-
Bywyd Llonydd
, Pont-Aven
-
La Bella Angele
1889, Amgeuddfa Orsay, Paris
-
Portread Suzanne Bambridge
, 1891, Amgueddfa Celf Fodern, Brwsel
-
Astudiaeth Noeth: Suzanne yn gwnio
-
Portread de Jeanne Goupil
-
Fflat Gauguin, rue Carcel
,1891
-
Vahine no te Tiare
, 1891
-
Manao tupapau
, 1892, Amgueddfa Albright-Knox, Buffalo
-
Marchogion ar y traeth
, 1902, Amgueddfa Folkwang, Essen
-
Rupe Rupe
, 1899, Amgueddfa Pushkin, Moscow
-
Nafea Faa Ipoipo?
1892
-
Merched Tahiti
, 1891, Amgueddfa Orsay, Paris
-
Vahine no te Vi
, 1892
-
O ble rydyn ni'n dod? Beth ydyn ni? I ble rydyn ni'n mynd?
, 1897
- ↑
1.0
1.1
1.2
1.3
http://www.biography.com/people/paul-gauguin-9307741
- ↑
http://www.metmuseum.org/toah/hd/gaug/hd_gaug.htm
- ↑
"The painter who invented his own brand of artistic license," Arifa Akbar, The Independent, 20 April 2010.
- ↑
"copi archif"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-11-08
. Cyrchwyd
2014-09-25
.
- ↑
According to postmodern critics, it was primarily the cultures of Africa and the Oceanic islands that provided artists an answer to what these critics call their "white, Western, and preponderantly male quest" for the "elusive ideal" of the primitive, "whose very condition of desirability resides in some form of distance and difference." See Solomon-Godeau 1986, p. 314.
- ↑
Diamond, S: In Search of the Primitive, (New Brunswick: Transaction Publishers, 1974)