Mae
Nova Scotia
neu
Alban Newydd
(
Gaeleg yr Alban
:
Alba Nuadh
;
Ffrangeg
:
Nouvelle-Ecosse
; yn llythrennol
Alban Newydd
yn
Lladin
) yn dalaith yng
Nghanada
a leolir ar arfordir de-ddwyreiniol y wlad. Hi yw'r dalaith fwyaf poblog o
daleithiau'r Arfordir
(Saesneg:
Maritime provinces
), ac mae ei phrifddinas,
Halifax
, yn ganolbwynt economaidd a diwylliannol i'r rhanbarth. Nova Scotia yw'r ail-leiaf o daleithiau Canada, gydag arwynebedd o 55,284 km², a gyda phoblogaeth o 936,988 hi yw'r bedwaredd-leiaf-poblog o daleithiau'r wlad.