한국   대만   중국   일본 
Naim Frasheri - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Naim Frasheri

Oddi ar Wicipedia
Naim Frasheri
Ffugenw D. Keto  Edit this on Wikidata
Ganwyd 25 Mai 1846  Edit this on Wikidata
Frasher  Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Hydref 1900  Edit this on Wikidata
o clefyd   Edit this on Wikidata
Istanbul   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Teqe of Frasher
  • Ysgol Zosimaia  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd , ysgrifennwr , cyfieithydd, newyddiadurwr, gwleidydd , hanesydd   Edit this on Wikidata
Arddull telyneg   Edit this on Wikidata
Perthnasau Midhat Frasheri, Ali Sami Yen  Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd, hanesydd, a chenedlaetholwr Albaniaidd oedd Naim Bey Frasheri ( 25 Mai 1846 ? 20 Hydref 1900 ) a ystyrir yn fardd cenedlaethol Albania ac un o'r prif ffigurau yng nghyfnod y dadeni diwylliannol a gwleidyddol yn hanes Albania a elwir Rilindja .

Ganed i deulu Mwslimaidd ym mhentref Fra?er (bellach Frasher, Albania), yn rhanbarth Epirws yn yr Ymerodraeth Otomanaidd . Mae'n debyg iddo ddysgu'r ieithoedd Tyrceg , Perseg , ac Arabeg yn ei fachgendod, a chafodd ei gyflwyno i draddodiadau ysbrydol a chyfriniol Islam ym mynachlog Urdd Bektashi. Mynychodd yr Ysgol Zosimaia yn Janina (bellach Ioannina , Groeg ) ac yno derbyniodd addysg glasurol, Ewropeaidd. Yn ei ieuenctid felly, magodd Frasheri ddealltwriaeth ddwfn a gwerthfawrogiad cydnaws o draddodiadau deallusol y Dwyrain a'r Gorllewin, gan gynnwys Swffiaeth bantheistaidd , barddoniaeth Berseg glasurol, a'r Oleuedigaeth . [1] Graddiodd o'r ysgol ym 1870 a threuliodd gyfnod yng Nghaergystennin (bellach Istanbwl , Twrci ), lle cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, gramadeg o'r iaith Berseg, ym 1871.

Dioddefodd Frasheri o'r ddarfodedigaeth ers ei flynyddoedd cynnar, a dychwelodd ymhen fawr o dro i fynyddoedd Albania i liniaru ei afiechyd. Gweithiodd Frasheri yn was sifil yn Berat , ac yn swyddog tollau yn Sarande o 1874 i 1877. Cafodd ei frawd h?n, Abdyl Frasheri, ei arestio yn Janina yn Ebrill 1881, a dychwelodd Naim i Gaergystennin i ymgyrchu dros genedlaetholdeb Albaniaidd. Ymunodd a'r Pwyllgor Canolog i Amddiffyn Hawliau'r Albaniaid a'r Gymdeithas dros Gyhoeddi Ysgrifennu yn Albania. [1] Daeth Naim a'i frawd iau, Sami, i'r amlwg fel arweinwyr y mudiad Albaniaidd yng Nghaergystennin, prifddinas yr ymerodraeth.

Ysgrifennodd Frasheri 22 o weithiau mewn pedair iaith: 15 yn Albaneg, pedwar yn Nhyrceg, dau yn Roeg, ac un yn Berseg. [1] Nodir am ei gylch o fugeilgerddi a llafurgerddi Bageti e bujqesija ("Da Byw a Chnydau"; 1886) ar batrwm Fyrsil , y casgliadau o gerddi Lulete e verese ("Blodau'r Haf"; 1890) a Parajsa dhe fjala fluturake ("Paradwys a Geiriau Adeiniog"; 1894), y gyfrol o ysgrifau ysbrydol Mesime ("Dysgeidiaethau"; 1894), yr arwrgerdd hanesyddol Istori’ e Skenderbeut ("Hanes Skanderbeg "; 1898), a'r arwrgerdd grefyddol Shiaidd Qerbelaja ("Karabala"; 1898). Yn ogystal a'i farddoniaeth Albaneg , cyfansoddodd Frasheri ddwy gerdd yn yr iaith Roeg : "O alithis pothos ton skipetaron" (Ο αληθ?? π?θο? των Σκιπετ?ρων, "Gwir Ddymuniad yr Albaniaid"; 1886) ac "O Eros" (Ο ?ρω?, "Serch"; 1895).

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

  • Kavaid-i farisiyye dar tarz-i nevin (Caergystennin, 1871).
  • Ihtiraat ve kessfiyyat (Caergystennin, 1881).
  • Fusuli erbea (Caergystennin, 1884).
  • Tahayyulat (Caergystennin, 1884).
  • Bageti e bujqesija ( Bwcarest , 1886).
  • E kendimit cunavet (Bwcarest, 1886).
  • Istori e pergjithshme per mesonjetoret te para (Bwcarest, 1886).
  • Vjersha per mesonjetoret te para (Bwcarest, 1886).
  • Diturite per mesonjetoret te para (Bwcarest, 1886).
  • "O alithis pothos ton skipetaron" (Ο αληθ?? π?θο? των Σκιπετ?ρων; Bwcarest, 1886)
  • Lulete e verese (Bwcarest, 1890).
  • Parajsa dhe fjala fluturake (Bwcarest, 1894).
  • Mesime (Bwcarest, 1894).
  • Gjithesia (Bwcarest, 1895).
  • Fletore e bektashinjet (Bwcarest, 1895).
  • O Eros (Ο ?ρω?; Caergystennin, 1895).
  • Iliadh' e Omirit (Bwcarest, 1896).
  • Istori’ e Skenderbeut (Bwcarest, 1898).
  • Qerbelaja (Bwcarest, 1898).
  • Istori e Shqiperise ( Sofia , 1899).
  • Shqiperia (Sofia, 1902).

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 1.2 Robert Elsie, Historical Dictionary of Albania , 2il argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2010), tt. 151?2.