Tywysogaeth
yn
Nwyrain Ewrop
a fodolai am ryw bumcan mlynedd, o ganol y 14g i 1859, oedd
Tywysogaeth Moldofa
neu
Moldafia
(
Rwmaneg
:
Moldova
neu
?ara Moldovei
). Lleolwyd yn rhanbarth isaf
Afon Donaw
, rhwng mynyddoedd y
Carpatiau
i'r gorllewin ac
Afon Dniester
i'r dwyrain. Ar ei hanterth, yn y 15g, roedd yn ffinio a'r
Mor Du
, ond am y rhan fwyaf o'i hanes
gwlad dirgaeedig
ydoedd.
Sefydlwyd Moldofa yn ystod hanner cyntaf y 14g gan Drago?, pennaeth ar fyddin o
Flachiaid
a anfonwyd gan
Lajos I, brenin Hwngari
, i wrthsefyll
y Llu Euraid
. Tua 1349, disodlwyd Sas, mab Drago?, gan y Tywysog Bogdan, a ddatganodd ei hun yn deyrn ar Foldofa, y tu hwnt i reolaeth
Teyrnas Hwngari
. Byddai tywysogion Moldofa yn amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn Hwngari a
Gwlad Pwyl
, ac yn ehangu eu tiriogaeth i gynnwys
Besarabia
yn y dwyrain a
Bukovina
yn y gogledd-orllewin. Llwydodd y Tywysog ?tefan III (Steffan Fawr; teyrnasai 1457?1504) i wrthsefyll goresgyniadau gan luoedd
yr Ymerodraeth Otomanaidd
, ond yn sgil ei farwolaeth gorchfygwyd Moldofa gan yr Otomaniaid a gorfodwyd i'w fab, y Tywysog Bogdan III (t. 1504?17) i dalu teyrnged i'r
Swltan Bayezid II
.
Erbyn canol yr 16g,
gwladwriaeth gaeth
i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth oedd Tywysogaeth Moldofa. Yn ystod y trichan mlynedd olynol byddai Moldofa dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid, ac ambell waith byddai'r tywysogion yn gwrthod awdurdod y Swltan, gan gynnwys gwrthryfel Ioan III (t. 1572?4) yn erbyn trethi uchel. Ym 1600 ceisiodd Mihai, Tywysog
Walachia
, uno ei diriogaeth a Moldofa a
Thransylfania
, ac o 1601 i 1618 cydnabuwyd penarglwyddiaeth Gwlad Pwyl gan dywysogion o frenhinllin y Movile?ti. Fodd bynnag, bu'r Otomaniaid yn goruchafu ar farchnadoedd Moldofa ac yn aml yn rheoli olyniaeth y tywysogion. Wedi 1711, dewiswyd y tywysogion o'r
Ffanariaid
, sef y teuluoedd
Groegaidd
cefnog o
Gaergystennin
.
[1]
Daeth Moldofa fwyfwy dan ddylanwad
Ymerodraeth Rwsia
yn y 18g. Collodd y dywysogaeth Bukovina i'r
Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd
ym 1774, ac ildiodd Besarabia i Rwsia yn sgil Cytundeb Bwcarest (1812). Dymchwelwyd llywodraeth y Ffanariaid yn sgil gwrthryfel ym 1821, a daeth Moldofa dan reolaeth Rwsia yn sgil rhyfel rhwng Rwsia a'r Ymerodraeth Otomanaidd ym 1828?9. Cyflwynwyd cyfansoddiad y
Regulamentul Organic
(Statud Organig) gan Rwsia ym 1832. Wedi methiant y Rwsiaid yn
Rhyfel y Crimea
(1853?56), cydnabuwyd Moldofa yn swyddogol fel gwladwriaeth awtonomaidd dan ben-arglwyddiaeth yr Otomaniaid. Ym 1859, unwyd Tywysogaethau Moldofa a Walachia ar ffurf
Rwmania
.