Jeanne d’Arc
|
---|
|
Ganwyd
| Unknown
c. 6 Ionawr 1412
Domremy-la-Pucelle
|
---|
Bu farw
| 30 Mai 1431
o marwolaeth drwy losgi
Rouen
|
---|
Dinasyddiaeth
| Teyrnas Ffrainc
|
---|
Galwedigaeth
| person milwrol
|
---|
Dydd g?yl
| 30 Mai
|
---|
Tad
| Jacques d'Arc
|
---|
Mam
| Isabelle Romee
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr
|
---|
llofnod
|
---|
|
Merch o blith gwerin
Ffrainc
a gafodd ddylanwad mawr ar gwrs
y Rhyfel Can Mlynedd
rhwng Ffrainc a
Lloegr
oedd
Jeanne d'Arc
, weithiau
Siwan o Arc
(c. 1412 -
30 Mai
,
1431
).
Yn
1428
, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas
Orleans
yng
nghanolbarth Ffrainc
. Yn
1429
, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin,
Siarl VII
, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd
Afon Loire
. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn
Reims
fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Cymerwyd Jeanne d’Arc yn garcharor gan y
Bwrgwyniaid
mewn ysgarmes ger
Compiegne
yn
1430
, a’i gwerthu i’r Saeson. Rhoddasant hwy hi ar ei phrawf o flaen llys eglwysig, a'i chafodd yn euog o
heresi
. Dienyddiwyd hi trwy losgi. Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cyhoeddodd
Pab Calistus III
ei bod yn ddieuog.
Ysbrydolodd Jeanne d'Arc loedd
Ffrainc Rydd
yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
pan fabwysiadodd y mudiad i wrthsefyll
Llywodraeth Vichy
Ffrainc a lluoedd yr Almaen
Natsiaidd
. symbol Jeanne,
Croes Lorraine
fel eu arwyddlun.