Japaneg
|
Enghraifft o'r canlynol
| iaith naturiol, iaith fyw
|
---|
Math
| Ieithoedd Japanaidd
|
---|
Enw brodorol
| 日本語
|
---|
Nifer y siaradwyr
|
128,000,000 (2019)
[1]
|
---|
cod ISO 639-1
| ja
|
---|
cod ISO 639-2
| jpn
|
---|
cod ISO 639-3
| jpn
|
---|
Gwladwriaeth
| Japan
|
---|
System ysgrifennu
| Kanji
,
Kana
,
Katakana
,
Hiragana
|
---|
Corff rheoleiddio
| Kokugo Shingikai, Council for Cultural Affairs, Ministry of Education, Culture, Sports, Science and Technology,
Asiantaeth Materion Diwylliannol Siapan
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Mae heddiw'n boblogaidd i gwmniau ddefnyddio
katakana
i bwysleisio enw'r brand ac i greu delwedd mwy cyfoes yn hytrach na defnyddio'r
kanji
neu
hiragana
mwy traddodiadol]]
Japaneg
(日本語
Nihongo
yn
R?maji
,
Siapaneg
,
Siapaneeg
) yw
iaith
swyddogol
Japan
gyda dros 130 miliwn o siaradwyr. Siaredir Japaneg ym
Mrasil
,
Taiwan
,
Ynysoedd Marshall
,
Palaw
,
Gwam
,
Awstralia
a'r
Unol Daleithiau
hefyd.
Mae dadlau ymysg ieithyddion yngl?n a gwreiddiau'r iaith. Mae rhai yn dadlau'n gryf fod yr iaith yn perthyn i'r teulu
Altaig
(Altaic), sydd hefyd yn cynnwys
Tyrceg
a'i changhennau,
Mongoleg
a
Choreeg
. Cred ieithyddion eraill fod Japaneg yn rhannu nodweddion a llawer o
ieithoedd Awstralasia
, tra bod eraill yn credu ei bod hi'n iaith gyfan gwbl ar wahan.
Er bod anghytundeb yngl?n a gwreiddiau'r iaith, ni ellir dadlau fod dylanwad cryf wedi bod gan y
Tsieineeg
ar yr iaith, gyda rhai yn dadlau bod hanner geirfa'r Japaneg yn deillio o'r Tsieineeg. Mae Japaneg ddiweddar yn defnyddio cyfuniad o dair system ysgrifennu:
- Kanji
(漢字) - arwyddluniau Tsieineeg a ddaeth i Japan yn wreiddiol o
Tsieina
- Kana
(かな) - yr enw ar ddwy
sillwyddor
a ddatblygwyd yn Japan ei hun, sef:
- Hiragana
(平?名) - a ddefnyddir ar gyfer geiriau brodorol Japaneg
- Katakana
(片?名) - a ddefnyddir ar gyfer geiriau tramor (yn aml Saesneg) neu i amnewid kanji neu hiragana er mwyn pwysleisio'r gair neu frawddeg.
Mae'r wyddor Ladin,
R?maji
, yn cael ei defnyddio'n aml mewn Japaneg ddiweddar, yn enwedig ar gyfer enwau cwmniau, hysbysebu ac wrth fewnbynnu Japaneg i mewn i gyfrifiadur.
Yn draddodiadol, caiff yr iaith ei hysgrifennu mewn ffurf
fertigol
a elwir yn
tategaki
(?書き) sydd yn golygu darllen fesul colofn (yn hytrach na fesul rhes), gan ddechrau ar frig y golofn ar y dde a darllen i lawr. Wedi cyrraedd gwaelod y golofn, symudir ymlaen i'r golofn nesaf sydd i'r chwith. Yn fwy diweddar defnyddir y ffurf
llorweddol
a elwir yn
okogaki
(?書き), ffurf sydd yn fwy cyffredin i Orllewinwyr sydd yn golygu darllen mewn rhesi o'r chwith i'r dde.
Ran amlaf, defnyddir y system rifol Indo-Arabaidd gyfarwydd, yn enwedig os yw ffurf y testun yn llorweddol.
- Prynhawn da: こんにちは
konnichiwa
- Bore da: おはようございます
ohay? gozaimasu
- Sut wyt ti?: お元?ですか
o-genki desu ka?
- Hwyl fawr: さようなら
say?nara
- Diolch: ありがとう
arigat?
- Japan: 日本
Nihon
- Japaneg: 日本語
Nihongo
- Cymru: ウェ?ルズ
U?ruzu
- Cymraeg (iaith): ウェ?ルズ語
U?ruzugo
- Cymry/Cymro/Cymraes: ウェ?ルズ人
U?ruzujin
- Kuno, Susumu. (1973).
The structure of the Japanese language
. Cambridge, MA: MIT Press.
ISBN 0-262-11049-0
.
- Martin, Samuel E. (1975).
A reference grammar of Japanese
. New Haven: Yale University Press.
ISBN 0-300-01813-4
.
- McClain, Yoko Matsuoka. (1981).
Handbook of modern Japanese grammar:
口語日本文法便?
[K?go Nihon bump? benran]
. Tokyo: Hokuseido Press.
ISBN 4-590-00570-0
;
ISBN 0-89346-149-0
.
- Miller, Roy. (1967).
The Japanese language
. Chicago: University of Chicago Press.
- Miller, Roy. (1980).
Origins of the Japanese language: Lectures in Japan during the academic year, 1977-78
. Seattle: University of Washington Press.
ISBN 0-295-95766-2
.
- Mizutani, Osamu; & Mizutani, Nobuko. (1987).
How to be polite in Japanese:
日本語の敬語
[Nihongo no keigo]
. Tokyo: Japan Times.
ISBN 4-7890-0338-8
.
- Shibatani, Masayoshi. (1990). Japanese. In B. Comrie (Ed.),
The major languages of east and south-east Asia
. Llundain: Routledge.
ISBN 0-415-04739-0
.
- Shibatani, Masayoshi. (1990).
The languages of Japan
. Caergrawnt: Cambridge University Press.
ISBN 0-521-36070-6
(hbk);
ISBN 0-521-36918-5
(pbk).
- Shibamoto, Janet S. (1985).
Japanese women's language
. New York: Academic Press.
ISBN 0-12-640030-X
.
- Tsujimura, Natsuko. (1996).
An introduction to Japanese linguistics
. Cambridge, MA: Blackwell Publishers.
ISBN 0-631-19855-5
(hbk);
ISBN 0-631-19856-3
(pbk).
- Tsujimura, Natsuko. (Ed.) (1999).
The handbook of Japanese linguistics
. Malden, MA: Blackwell Publishers.
ISBN 0-631-20504-7
.
- ↑
(yn en)
Ethnologue
(25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International,
ISSN
1946-9675
,
OCLC
43349556
,
Wikidata
Q14790
,
https://www.ethnologue.com/
, adalwyd 23 Ebrill 2022