Heraclius
|
---|
|
Ganwyd
| c. 575
Cappadocia
|
---|
Bu farw
| 11 Chwefror 641
Caergystennin
|
---|
Dinasyddiaeth
| yr Ymerodraeth Fysantaidd
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
|
---|
Swydd
| Ymerawdwr Bysantaidd
|
---|
Tad
| Heraclius the Elder
|
---|
Mam
| Epiphania
|
---|
Priod
| Fabia Eudokia, Martina
|
---|
Plant
| Eudoxia Epiphania, Heraclius Constantine, John Athalarichos, Konstantinos Heteros, Unknown, Theodosius, Heraklonas, David, Martinus, Augoustina, Unknown, Martinha, Unknown
|
---|
Llinach
| Heraclian dynasty
|
---|
Ymerawdwr Bysantaidd
rhwng
610
a
641
oedd
Heraclius
,
Groeg
: Ηρ?κλειο?,
H?rakleios
(c.
575
?
11 Chwefror
,
641
.
Roedd ei dad, hefyd o'r enw Heraclius, wedi bod yn un o gadfridogion amlycaf yr ymerawdwr
Mauricius
, a daeth yn
exarch
talaith Affrica. Yn
608
dechreuodd y ddau Heraclius wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr
Phocas
, ac yn
610
daeth Heraclius y mab yn ymerawdwr, gan ladd Phocas a'i ddwylo ei hun.
Ymosododd y Persiaid ar
Asia Leiaf
, gan gipio
Damascus
a
Jeriwsalem
a dwyn
y Wir Groes
i
Ctesiphon
. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger
Ninefeh
yn
627
, a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn
629
. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd
Arabaidd
a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn
636
, tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn
634
.
Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg
Basileus
(Βασιλε??) yn lle'r teirl
Lladin
traddodiadol
Augustus
, a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y
monoffisiaid
a'r
Chalcedoniaid
, ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd,
monotheletiaeth
, a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd
yr Aifft
iddynt yn 642.
Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711.