Ffredrig I, Ymerawdwr Glan Rhufeinig
|
---|
|
Ganwyd
| Rhagfyr 1122
Haguenau
|
---|
Bu farw
| 10 Mehefin 1190, 24 Mehefin 1190
o boddi
Goksu
|
---|
Dinasyddiaeth
| yr Ymerodraeth Lan Rufeinig
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
|
---|
Swydd
| Brenin y Rhufeiniaid,
Ymerawdwr Glan Rhufeinig
, Duke of Swabia
|
---|
Tad
| Frederick II
|
---|
Mam
| Judith o Fafaria
|
---|
Priod
| Adelheid o Vohburg, Beatrice I, Iarlles Burgundy
|
---|
Plant
| Philip o Swabia, Harri VI, Frederick V, Frederick Vi, Conrad II, Otto I, Beatrice Schwabische, Sophie o Hohenstaufen, Agnes Von Staufen
|
---|
Perthnasau
| Harri y Llew
|
---|
Llinach
| House of Hohenstaufen
|
---|
Roedd
Ffrederic I
, llysenw
Barbarossa
("barfgoch") (
1122
?
10 Mehefin
1190
) yn aelod o dylwyth yr
Hohenstaufen
, ac o
1155
hyd ei farwolaeth roedd yn
Ymerawdwr Glan Rhufeinig
.
Etifeddodd dywysogaeth Swabia fel Ffrederic III, ac ar
9 Mawrth
1152
coronwyd ef yn frenin
yr Almaen
yn
Frankfurt
. Ar
18 Mehefin
1155
yn Rhufain, coronodd
Pab Adrian IV
ef yn Ymerawdwr Glan Rhufeinig yn
Rhufain
. Yn
1156
priododd
Beatrix I o Fwrgwyn
, a thrwy'r briodas yma daeth
Bwrgwyn
yn eiddo iddo yn
1178
.
Gwrthwynebwyd ef gan ddinasoedd gogledd
yr Eidal
, a ffurfiodd
Gynghrair Lombardi
yn ei erbyn. Llwyddasant i'w orchfygu ym mrwydr Legnano yn 1176. Yn
1183
, daethant i gytundeb, gyda'r finasoedd yn cydnabod Ffrederic fel ymerawdwr. Yng nghanolbarth yr Eidal, daeth i wrthdrawiad a'r Pab. Yn ne'r Eidal, priododd ei fab, Henri VI, a merch brenin
Sicilia
, a llwyddasant i gipio Sicilia oddi wrth y
Normaniaid
.
Roedd Ffrederic yn un o brif arweinwyr y
Drydedd Groesgad
, ond bu farw ar
10 Mehefin
1190
wrth groesi afon yn
Anatolia
, tra'n arwain ei fyddin tua'r Tir Sanctaidd. Datblygodd chwedl ar thema'r
Brenin yn y mynydd
amdano yn yr Almaen. Yn ol y chwedl, mae Ffrederic yn cysgu mewn ogof dan fynydd y
Kyffhauser
. Pan mae'n deffro, mae'n gyrru bachgen i weld a yw'r cigfrain yn dal i hedfan o gylch y mynydd; pan ddiflanna'r cigfrain, bydd yn bryd i Ffrederic godi o'i gwsg.
Enwyd
Cyrch Barbarossa
, sef ymosodiad yr Almaen ar yr
Undeb Sofietaidd
yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, ar ol Ffrederic.