Cyfnod chwyldroadol yn
hanes Ewrop
oedd
y Dadeni Dysg
, neu yn syml
y Dadeni
, sydd yn nodi'r trawsnewid o'r
Oesoedd Canol
i'r
cyfnod modern
. Prif nodwedd yr oes hon oedd yr ailddeffroad yn nysgeidiaeth clasurol a'r ymdrech i adfywio ac adeiladu ar syniadau a gwerthoedd yr Henfyd, yn enwedig drwy
ddyneiddiaeth
. Dechreuodd ar droad y 13g a'r 14g yn
yr Eidal
, ac oddi yno ymledodd yn gyntaf yn y 15g i
Sbaen
a
Phortiwgal
ac yn yr 16g i'r
Almaen
,
Ffrainc
,
y Gwledydd Isel
,
Lloegr
, a
Gwlad Pwyl
. Datblygodd yng nghyd-destun argyfyngau'r
Oesoedd Canol Diweddar
a newidiadau cymdeithasol mawr y 14g a'r
Diwygiad Protestannaidd
yn y 15g. Yn ogystal a'r adfywiad clasurol a dyneiddiaeth, a fynegir drwy gyfryngau
llenyddiaeth
,
celf
,
pensaerniaeth
, a
cherddoriaeth
, nodir y Dadeni gan ddyfeisiau a darganfyddiadau newydd, gan gynnwys y
cwmpawd
,
powdwr gwn
, a'r
wasg argraffu
.
Weithiau, caiff dechrau'r Dadeni Dysg ei ddyddio i farwolaeth
yr Ymerawdwr Ffredrig II
?yr arweinydd olaf i feddu ar reolaeth dros ogledd a chanolbarth yr Eidal?ym 1250. Dyma ddyddiad digon mympwyol, ond mae'n nodi un o'r elfennau pwysicaf a arweiniai at gychwyniadau'r Dadeni yn yr Eidal, sef annibyniaeth
de facto
y rhanbarthau hynny a fyddai'n ganolfannau diwylliannol y dyneiddwyr.
Y Ddynes gyda Charlwm
gan
Leonardo da Vinci
, a gedwir yn Amgueddfa Czartoryski,
Krakow
.
Gallwch helpu Wicipedia drwy
ychwanegu at
yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy
ychwanegu at
yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy
ychwanegu at
yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy
ychwanegu at
yr adran hon.