Arabiaid

Oddi ar Wicipedia
Arabiaid
Enghraifft o'r canlynol gr?p ethnig   Edit this on Wikidata
Math Semitiaid, peoples of the Quran  Edit this on Wikidata
Y gwrthwyneb Ajam  Edit this on Wikidata
Label brodorol ???  Edit this on Wikidata
Poblogaeth 440,000,000 ±10000000  Edit this on Wikidata
Crefydd Islam , cristnogaeth   edit this on wikidata
Rhan o Semitiaid  Edit this on Wikidata
Enw brodorol ???  Edit this on Wikidata
Gwladwriaeth Brasil , Ffrainc , yr Ariannin , Feneswela , Indonesia , Iran , Israel , Unol Daleithiau America , Mecsico , Twrci , Sbaen , Awstralia , Rwsia   Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Arabiaid yn bobl Semitaidd a breswyliai orynys Arabia yn wreiddiol. Gellir eu rhannu'n fras yn ddau gr?p diwylliannol, sef y llwythi Bedouin nomadaidd a'r cymunedau dinesig ac amaethyddol.

Roedd yr Arabiaid yn adanbyddus i'r Groegiaid , y Rhufeiniaid a'r Iddewon yn yr Henfyd. Cyfeirir atynt gan hanesyddion clasurol ac fe'i henwir yn yr Hen Destament yn y Beibl .

Yn y 7g , wedi'u hysbarduno a'u hysbrydoli gan neges y Proffwyd Mohamed a dan bwysau economaidd a chymdeithasol yn ogystal, ymledodd yr Arabiaid dros ran sylweddol o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica . Wrth wneud hynny cludiasant efo nhw cred Islam a'r iaith Arabeg mor bell a'r Maghreb ac Andalucia yn y gorllewin ac Indonesia yn y dwyrain.

Er bod y gair "Arabiaid" yn golygu trigolion Arabia a'u disgynyddion uniongyrchol yn wreiddiol, heddiw mae'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at drigolion iaith Arabeg de-orllewin Asia , yr Aifft , Gogledd Affrica a rhannau o'r Affrica is- Saharaidd , yn ogystal a phobl Arabaidd sy'n byw tramor.

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]