Serbo-Croateg
|
Enghraifft o'r canlynol
| iaith,
macroiaith
, iaith fyw, pluricentric language
|
---|
Math
| Western South Slavic
|
---|
Enw brodorol
| srpskohrvatski jezik
|
---|
Nifer y siaradwyr
|
19,000,000 (2022)
[1]
|
---|
cod ISO 639-1
| sh
|
---|
cod ISO 639-3
| hbs
|
---|
Gwladwriaeth
| Bosnia a Hertsegofina
,
Serbia
,
Croatia
,
Montenegro
|
---|
System ysgrifennu
| Gaj's Latin alphabet, Serbian Cyrillic alphabet,
Yr wyddor Gyrilig
,
yr wyddor Ladin
|
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Iaith neu gr?p o
ieithoedd De Slafonaidd
yw
Serbo-Croateg
, sy'n cynnwys
Croateg
,
Serbeg
,
Bosnieg
a
Montenegreg
. Yn ddiweddar, defnyddir enwau gwahanol arni, gan gynnwys
BCMS
[2]
, sy'n cyfeirio'n glir at y
Fosnieg
a'r
Fontenegreg
yn ogystal.
Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwyr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Serbo-Croateg oedd iaith swyddogol
Iwgoslafia
. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahan, er bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahan.
Yn Serbo-Croateg, weithiau defnyddir yr enw "
na? jezik
" ("ein hiaith") neu "
na?ki
" ("ni-eg, ein hun ni"). Ond fel arfer, mae enw'r iaith yn Serbo-Croateg yn dibynnu ar hunaniaeth y siaradwr. Mae'r rhan fwyaf o
Bosniaciaid
yn cyfeirio at eu hiaith fel
Bosneg
(
bosanski
/ босански), y rhan fwyaf o
Croatiaid
yn cyfeirio at eu hiaith fel
Croateg
(
hrvatski),
y rhan fwyaf o
Serbiaid
yn cyfeirio at eu hiaith fel
Serbeg
(српски /
srpski
), y rhan fwyaf o bobl
Montenegro
yn cyfeirio at eu hiaith unai fel
Montenegreg
(
crnogorski
, црногорски) neu Serbeg, a'r rhan fwyaf o
Bunjevci
yn cyfeirio at eu hiaith fel
bunjeva?ki
neu fel Croateg.
Gwahaniaethau rhwng amrywiadau o Serbo-Croateg
[
golygu
|
golygu cod
]
- ↑
(yn en)
Ethnologue
(25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International,
ISSN
1946-9675
,
OCLC
43349556
,
Wikidata
Q14790
,
https://www.ethnologue.com/
- ↑
"Centre d'etudes slaves - UMS 623 - Grammaire du Bosniaque Croate Montenegrin Serbe"
.
www.etudes-slaves.paris-sorbonne.fr
. Cyrchwyd
2020-11-09
.