| Mae'r erthygl hon yn
dibynnu'n fawr neu'n gyfan gwbl ar un ffynhonnell yn unig
. Helpwch
wella'r erthygl
trwy ychwanegu cyfeiriadau neu ddyfyniadau priodol o ffynonellau eraill.
(Hydref 2010)
|
| Nid yw'r erthygl hon yn
dyfynnu unrhyw ffynonellau
.
Helpwch
wella'r erthygl hon
drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy.
Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori
Categori:Dim-ffynonellau
.
(Hydref 2010)
|
Mae "R&B" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am y steil modern o'r gerddoriaeth hefyd a elwir "R&B", gweler
R&B cyfoes
.
Math
o
gerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd
boblogaidd
a ddechreuwyd yn y
1940au
[1]
yw
rhythm a bl?s
(
Saesneg
:
rhythm and blues
), sy'n cael ei fyrhau i
R&B
fel arfer.
Mae R&B mor boblogaidd heddiw nac yr oedd pan ddechreuodd hi yn y
1940au
cynnar. Mae'n yn cynnwys
jump blues
,
doo-wop
,
soul
,
y twist
,
Motown
,
disco
,
funk
,
rap
a
hip-hop
. Gan fod R&B wedi newid llawer dros y blynyddoedd, gellir cyfeirio at yr arddull cynnar fel "rhythm a bl?s traddodiadol" a'r diweddar fel "rhythm a bl?s cyfoesol". Fe ddechreuodd hi yn ystod
yr Ail Ryfel Byd
pan yr oedd mudiad llawer o bobl dduon o dde'r
Unol Daleithiau
i weithio yn y dinasoedd mawr.
Fe ddefnyddiwyd yr ymadrodd
"Rhythm and Blues"
yn gyntaf ym
1949
gan Jerry Wexler yng nghylchgrawn y "Billboard" (ac "Atlantic Records" wedi hynny). Fel mae'r ymadrodd yn awgrymu, mae rhythm a bl?s yn ddisgynnydd o'r
bl?s
. Mae'r
gerddoriaeth
yn debyg iawn i'r bl?s ond mae ganddi
rythm
cryf a chaled. Mae gan y rhan fwyaf o ganeuon R&B bedwar curiad i'r
bar
gyda'r
acen
ar yr ail a'r bedwerydd curiad.
Fe recordiodd
Louis Jordan
"G. I. Jive"
ym
1944
,
"Caldonia"
ym
1945
a
"Choo Choo Ch'Boogie"
ym
1946
, mewn arddull a elwir
jump blues
.
Ym
1949
, fe recordiodd
Fats Domino
"The Fat Man"
ac ym
1956
fe recordiodd fersiwn o'r gan
"Blueberry Hill"
. Fe recordiodd
Chuck Berry
"Maybellene"
ym
1955
a
"Roll Over Beethoven"
ym
1956
. Gelwir Chuck Berry yn frenin R&B.
Un arall oedd
Little Richard
a recordiodd
"Tutti Frutti"
yn
1955
,
"Long Tall Sally"
a
"Good Golly Miss Molly"
yn
1958
.
Yn y
1950au
fe ddatblygodd R&B i
roc a rol
pan osododd gerddorion gwynion fel
Bill Haley
ac
Elvis Presley
alawon gwlad
i rythmau R&B. Gelwir R&B yn
"roc a rol ddu"
weithiau ac mae cerddorion fel
Fats Domino
,
Chuck Berry
a
Little Richard
ymhlith arloeswyr roc a rol.
Ystyr
soul
yw "enaid". Dywedir mai'r canwr a
phianydd
Ray Charles
a ddyfeisiodd
soul
. Dechreuodd e recordio yn
1951
.
Un arall i ddechrau'r un adeg oedd
James Brown
a ddatblygodd
funk
. Mae funk yn debyg i
soul
ond bod yr acen ar guriad cyntaf y
bar
a bod ganddo
rythm
wedi ei drawsacennu.
Yn
1959
fe recordiodd
Hank Ballard and the Midnighters
"Teardrops on Your Letter"
. Ar gefn y record roedd yna gan o'r enw
"The Twist"
. Yn
1960
fe recordiodd
Chubby Checker
fersiwn ei hunan o
"The Twist"
ac fe ddyfeisiodd
ddawns
fach i fynd gyda'r gan. Daeth y ddawns yn boblogaidd dros ben o gwmpas y byd-eang. Y flwyddyn ganlynnol fe ysgrifennodd a recordiodd Chubby Checker y gan
"Let's Twist Again"
.
Yn
1959
fe sefydlodd
Berry Gordy
gwmni recordio "
Motown
" yn
Detroit
. Canwyr mwyaf poblogaidd Motown ydy
Diana Ross
,
Smokey Robinson
,
Stevie Wonder
a
Michael Jackson
.
Yn y
1960au
roedd bandiau fel y
Rolling Stones
,
Manfred Mann
a'r
Kinks
yn arfer gwrando ar hen recordiau R&B a chwarae arddull
drydanol
o R&B.
Mae enwogion eraill R&B yn cynnwys
Booker T and the MG's
,
Sly & The Family Stone
,
Ike Turner
,
Tina Turner
,
Whitney Houston
,
Destiny's Child
(yn cynnwys
Beyonce
),
Luther Vandross
,
Alexandra Burke
a
Mary J Blige
.
- ↑
The new blue music: changes in rhythm & blues, 1950?1999, p.172