Plaid wleidyddol
yng
Ngweriniaeth Pobl Tsieina
yw
Plaid Gomiwnyddol Tsieina
. Sefydlwyd ym 1921, ac ym 1949 trechodd y
Kuomintang
gan ennill
Rhyfel Cartref Tsieina
. Mae'r blaid wedi llywodraethu Gweriniaeth Pobl Tsieina ers hynny.
[1]
Hon yw'r blaid wleidyddol fwyaf yn y byd, a chanddi 86.7 miliwn o aelodau.
[2]
Mae ei haelodau yn bennaf yn swyddogion y llywodraeth, swyddogion y fyddin, ffermwyr, a gweithwyr cwmniau dan berchenogaeth y wladwriaeth. Dim ond tua chwarter o'r aelodau sy'n fenywod.
[3]