Roedd
Mikhail Sergeyevich Gorbachev
(
Rwsieg
:
Михаи?л Серге?евич Горбачёв
; trawslythrennu:
Michail Gorbatsiof
)
[1]
(
2 Mawrth
1931
?
30 Awst
2022
)
[2]
yn wleidydd Rwsiaidd a fu am gyfnod yn arlywydd yr
Undeb Sofietaidd
. Ef oedd yr wythfed Arlywydd, a'r olaf. Fe'i disgrifiwyd fel ffigwr byd pwysicaf chwarter olaf yr 20fed ganrif.
[3]
Roedd yn
Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd
(1985-1991) ac arlywydd olaf yr Undeb Sofietaidd, yn dal y swydd honno o
1985
hyd ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn
1991
. Roedd ei ymgeisiau i adnewyddu'r wladwriaeth, sef
perestroika
("ailstrwythuro") a
glasnost
("bod yn agored"), yn elfennau amlwg yn y broses o ddod a'r
Rhyfel Oer
i ben ac i ail-greu'r Undeb Sofietaidd, gan ei throi o fod yn wlad
Gomiwnyddol
ac at
Gyfalafiaeth
. Fe dderbyniodd Fedal Heddwch Otto Hahn yn 1989,
Wobr Heddwch Nobel
yn
1990
a Gwobr Harvey yn 1992.
Drwy ailstrwythuro'r Undeb Sofietaidd, diddymwyd grym y Blaid Gomiwnyddol o fewn cyfansoddiad y wlad; drwy gynlluniau Gorbachev newidiwyd ei rol o fod yn un a oedd yn tra-arglwyddiaethu ac yn rheoli'r wladwriaeth gydag awenau tynn i greisis ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, ymchwydd gref o wrth-Gomiwnyddiaeth ac yna, fel penllanw i'r cyfan, diddymiad yr Undeb Sofietaidd. Mynegodd siom iddo fethu a gwneud hyn ond cadw'r hen CCCP (neu'r 'USSR') a dywedodd mai gwelliannau a diwygiadau oedd ei bolisiau a lwyddodd yn y diwedd er i rai geisio eu tanseilio a chymryd y clod oddi wrtho.
Y blynyddoedd cynnar
golygu
Fe'i ganed yn
Stavropol Krai
i deulu gwerinol, cyffredin o
Wcrain
-
Rwsiaidd
. Maria (ganwyd Gopkalo) a Sergey Gorbachev oedd ei rhieni.
[3]
Yn hogyn ifanc arferai yrru peiriant cynaeafu gwair ar ffermydd cyfagos. Graddiodd yn y gyfraith ym
Mhrifysgol Mosgow
yn 1955, lle ymunodd gyda'r Blaid Gomiwnyddol. Cafodd ei ethol yn swyddog o Gymdeithas Talaith Stavropol yn 1970, ac yn Ysgrifennydd Cyntaf y mudiad cenedlaethol yn 1974 a'r
Politburo
erbyn 1979. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Politburo yn 1985, dair blynedd wedi marwolaeth
Leonid Brezhnev
.