| Mae'r dudalen hon yn
ganllaw ar sut mae gwneud rhywbeth
sy'n manylu arfer neu broses y Wicipedia Cymraeg.
|
Gellir
symud
tudalennau i deitl newydd os yw'r un blaenorol:
- yn wallus,
- yn anghyflawn,
- yn gamarweiniol,
neu amryw o resymau eraill megis bod:
Pan ail-enwir tudalen, atodir hanes y dudalen i'r enw newydd, ac
ailgyfeirir
y teitl blaenorol yn awtomatig i'r enw newydd (mae gan fotiau a gweinyddwyr yr opsiwn o
atal yr ailgyfeiriad
). Dim ond
defnyddwyr awto-gadarnhau
sydd a'r gallu i symud tudalen oherwydd fandaliaeth barhaus ar ffurf symud tudalennau. Os nad oes cyfrif gennych neu os nad ydy'ch cyfrif wedi ei gadarnhau eto, gallwch holi i rywun arall symud tudalen
yma
.
Pan symudir tudalen sydd ym
mharth y ffeiliau
(h.y., cyfryngau), symudir y ffeil perthnasol hefyd. Dim ond y
gweinyddwyr
sydd a'r gallu i wneud hyn. Ni ellir symud tudalennau ym
mharth y categoriau
.
Ceir llawer o resymau dros symud tudalen:
- Camsillafwyd y teitl, nid yw'n cynnwys atalnodi neu briflythrennu safonol, neu mae'n gamarweiniol neu'n wallus.
- Nid yw'r teitl yn dilyn
confensiynau enwi Wicipedia
, nid yr
enw mwyaf cyfarwydd
am y pwnc sydd arno neu mae'n
or-drachywir
.
- Mae angen
gwahaniaethu
rhwng dwy erthygl ag enwau tebyg arnynt.
- Lleihawyd yr erthygl, fe'i hymestynnwyd neu fe newidiwyd ei chwmpas, felly mae angen newid yr
enw disgrifiadol
arni i gyfateb a'r newid iddi.
- Crewyd yr erthygl fel
is-dudalen
yn gyntaf er mwyn ei datblygu, ond bellach mae'n barod i fynd yn fyw.
- Mae'n
dudalen sgwrs
ac mae ei thrafodaethau yn barod i'w harchifo.