Rabindranath Tagore

Oddi ar Wicipedia
Rabindranath Tagore
Ffugenw ????????  Edit this on Wikidata
Ganwyd 7 Mai 1861  Edit this on Wikidata
Kolkata   Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Awst 1941  Edit this on Wikidata
Kolkata   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Raj Prydeinig   Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth arlunydd, bardd , cyfansoddwr , dramodydd , awdur ysgrifau, athronydd, arlunydd , ysgrifennwr , awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, canwr , cyfarwyddwr ffilm , ymladdwr rhyddid  Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Gitanjali, Ghare-Bhaire, Bhanusimha Thakurer Padabali, Valmikipratibha, Kabuliwala, Hungry Stones, Nastanirh, Noukadubi, Chaturanga, Jogajog, Shesher Kabita, Dak Ghar, Raja  Edit this on Wikidata
Arddull traethawd , stori fer , nofel   Edit this on Wikidata
Tad Debendranath Tagore  Edit this on Wikidata
Priod Mrinalini Devi  Edit this on Wikidata
Plant Rathindranath Tagore  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Lenyddol Nobel , OBE, honorary doctor of the University of Calcutta, Marchog Faglor  Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd, dysgeidydd a llenor yn yr iaith Fengaleg oedd Rabindranath Tagore ( 1861 - 1941 ), a aned yn Calcutta , yng Ngorllewin Bengal , India . Roedd yn fab i'r diwygiwr crefyddol Debendranath Tagore ( 1817 - 1905 ), sefydlydd ashram "Cartref Hedd" yn Calcutta a drowyd yn ganolfan addysg gan ei fab ar ol ei farwolaeth. Urddiwyd Tagore yn farchog gan Brydain yn 1915 ond fe roddodd heibio'r anrhydedd yn 1919 fel protest yn erbyn Cyflafan Amritsar .

Roedd Tagore yn awdur barddoniaeth , dramau a ffuglen yn Fengaleg, yn gerddor ddawnus ac yn artist da. Ei waith mwyaf adnabyddus yn y Gorllewin yw'r gyfrol ddylanwadol o gerddi Gitanjali , a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1912 . Beirniadwyd ef gan Gandhi fel hyn: 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Cafodd hyn effaith drom ar Waldo Williams . [1]

Ffynonellau [ golygu | golygu cod ]

  1. Jams Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13