Yn ymarferol, Prif Weinidog India yw'r person a mwyaf o rym yn Llywodraeth India . Yn dechnegol, mae'r Arlywydd yn awdurdod uwch, ond swyddogaeth ddefodol sydd ganddo'n bennaf. Y Prif Weinidog, felly, sy'n arwain y Llywodraeth. Fel arfer, ef yw arweinydd y blaid neu glymblaid sydd a mwyafrif o aelodau'r Lok Sabha . Mae'n rhaid iddo fod yn aelod presennol o'r Lok Sabha neu'r Rajya Sabha , neu gael ei ethol o fewn chwe mis wedi cychwyn y swydd. Bu 15 Prif Weinidog hyd yma.