Mihangel Morgan

Oddi ar Wicipedia
Mihangel Morgan
Ganwyd 7 Rhagfyr 1955  Edit this on Wikidata
Trecynon   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru
Galwedigaeth bardd , darlithydd  Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Mae Mihangel Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr 1955 , Trecynon ) [1] yn awdur a bardd Cymraeg sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth . Newidiodd ei enw o Michael Finch i Mihangel Morgan yn ei ugeiniau cynnar, gan gymryd cyfenw ei fam cyn iddi briodi. [2] Bu'n geinlythrennydd (caligrapher) yn Rhuthun , Sir Ddinbych ar ddechrau'r 80au ac mae bellach yn byw ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion .

Daw'n wreiddiol o Aberdar , Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddyn hoyw sy'n gwbl agored am ei rywioldeb. [3] Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn graddio. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei lyfr Digon o Fwydod ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006 .

Gwobrau ac anrhydeddau [ golygu | golygu cod ]

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

Astudiaethau [ golygu | golygu cod ]

  • Rhiannon Marks, Y Dychymyg Ol-fodern: Agweddau ar Ffuglen Fer Mihangel Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, 2020)

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1.   Cyfnewidfa Len Cymru - Mihangel Morgan . Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
  2. Elfed Davies: "1799 Carmel Eglwys Presbyteraidd Cymru Trecynon 1996" (Pink Panther Digital Solutions)
  3. "Merch mewn corff bachgen" , Adolygiad y BBC o "Pan Oeddwn Fachgen." Adalwyd ar 30-07-2009.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]