Maes awyr
mawr ym
Mwrdeistref Llundain Hillingdon
yw
Maes Awyr Heathrow
, codau:
IATA
:
LHR
,
ICAO
:
EGLL
. Fe'i lleolir tua 14 milltir i'r gorllewin o ganol
Llundain
. Maes awyr prysuraf y byd yn nhermau traffig rhyngwladol teithwyr ydy o, ac yn nhermau traffig cyfan teithwyr mae o'n ail brysuraf y byd a phrysuraf Ewrop. Mae
BAA
yn berchen ar Heathrow ac yn ei weithredu. Mae pum terfynfa ganddo; agorwyd y tair terfynfa gyntaf yn y 1950au a 1960au, y bedwerydd ym 1986 a'r bumed yn 2008. Mae'r gwasanaethau cludiant eraill sy'n cysylltu a fo yn cynnwys
Rheilffordd Danddaearol Llundain
a'r gwasanaeth rheilffordd cyflym
Heathrow Express
i orsaf Paddington yn Llundain.