Lou Reed

Oddi ar Wicipedia
Lou Reed
Ganwyd Lewis Allan Reed  Edit this on Wikidata
2 Mawrth 1942  Edit this on Wikidata
Brookdale University Hospital and Medical Center  Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Hydref 2013  Edit this on Wikidata
o sirosis   Edit this on Wikidata
East Hampton, Efrog Newydd   Edit this on Wikidata
Label recordio Warner Bros. Records, Metro-Goldwyn-Mayer, RCA, Pickwick, Verve Records, MGM Records, RCA Records, Arista Records, Sire Records, Warner Records  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Syracuse
  • Freeport High School  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth canwr , canwr-gyfansoddwr, gitarydd, ffotograffydd, cyfansoddwr , cyfansoddwr caneuon, bardd , actor , cynhyrchydd recordiau , cerddor , cyfarwyddwr ffilm   Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Pickwick  Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Walk on the Wild Side, Transformer  Edit this on Wikidata
Arddull cerddoriaeth roc , proto-punk, roc amgen, noise rock, roc arbrofol, roc glam, roc gwerin, roc seicedelig, blue-eyed soul, roc celf, spoken word, drone music  Edit this on Wikidata
Math o lais bariton   Edit this on Wikidata
Priod Laurie Anderson  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Steiger, Rock and Roll Hall of Fame , Gwobr Grammy   Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.loureed.com/   Edit this on Wikidata

Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon roc Americanaidd oedd Lewis Allan "Lou" Reed ( 2 Mawrth 1942 ? 27 Hydref 2013 ). [1]

Ganwyd yn Brooklyn , Dinas Efrog Newydd , i deulu Iddewig ym 1942 a mynychodd Prifysgol Syracuse . Yn Ninas Efrog Newydd bu'n cwrdd a'r Cymro John Cale a sefydlodd y ddau y band roc The Velvet Underground ym 1965 gyda'r gitarydd Sterling Morrison a'r drymwraig Maureen Tucker , a bu'r arlunydd Andy Warhol yn rheolwr a chynhyrchydd. Erbyn i Reed adael y band ym 1970, rhyddhaodd The Velvet Underground pedwar albwm oedd yn arloesol yng nghelfyddyd avant-garde a cherddoriaeth arbrofol . Nid oedd y band yn hynod o lwyddiannus ar y pryd, ond ers hynny mae dylanwad The Velvet Underground ar gerddoriaeth roc yn amlwg. [2] [3]

Ym 1972 symudodd Reed i Loegr a rhyddhaodd ei ddau albwm unigol cyntaf, Lou Reed a Transformer . Cyd-gynhyrchwyd Transformer gan David Bowie ac mae'n cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, Vicious , Perfect Day , Walk on the Wilde Side , a Satellite of Love . Dan ddylanwad Bowie mabwysiadodd Reed delwedd a sain roc glam sy'n amlwg yn y llun eiconig ohono ar glawr Transformer . Roedd ei waith hefyd yn ddylanwadol ar bync-roc yn y cyfnod hwn. [3] Bu perthynas Reed ag alcohol a chyffuriau yn effeithio ar ei yrfa, ac roedd yr ymateb beirniadol a phoblogaidd i'w albymau trwy'r 1970au yn gymysg. Ei weithiau mwyaf ddrwg-enwog yw Berlin (1973), cylch o ganeuon epig am berthynas sadomasochistaidd, a Metal Machine Music (1975), albwm dwbl o s?n adlif gitar yn unig.

Arbrofodd ymhellach gyda Street Hassle (1978) a The Bells (1979), [1] a dychwelodd at roc crai'r gitar ar The Blue Mask (1982). [3] Wedi i Reed rhoi'r gorau i'w ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, derbynodd clod am gyfres o albymau: New York (1989); Songs for Drella (1990), cydweithrediad a John Cale er cof am Warhol; a Magic and Loss (1992) a ddangosodd medr Reed gyda'r gan roc a rol dau-gord. [1] Yn y 1990au adunodd a The Velvet Underground nifer o weithiau, er bu peth anghytundeb rhyngddo a Cale. [2] Rhyddhaodd Reed rhagor o albymau gan arbrofi a cherddoriaeth amgylchol a llefaru, er enghraifft ar The Raven (2003) sy'n seiliedig ar weithiau Edgar Allan Poe . Yn 2011 cyd-weithiodd a'r band metel trwm Metallica i greu'r albwm Lulu . [4]

Priododd Bettye Kronstadt ym 1973, y ddylunwraig Sylvia Morales ym 1980, a'r gerddores Laurie Anderson yn 2008. [5] Cafodd trawsblaniad afu ym Mai 2013, ac yn Hydref y flwyddyn honno bu farw yn 71 oed o glefyd yr afu . [6]

Disgyddiaeth [ golygu | golygu cod ]

Albymau unigol [ golygu | golygu cod ]

  • Lou Reed (1972)
  • Transformer (1972)
  • Berlin (1973)
  • Sally Can't Dance (1974)
  • Metal Machine Music (1975)
  • Coney Island Baby (1975)
  • Rock and Roll Heart (1976)
  • Street Hassle (1978)
  • The Bells (1979)
  • Growing Up in Public (1980)
  • The Blue Mask (1982)
  • Legendary Hearts (1983)
  • New Sensations (1984)
  • Mistrial (1986)
  • New York (1989)
  • Songs for Drella (1990; gyda John Cale)
  • Magic and Loss (1992)
  • Set the Twilight Reeling (1996)
  • Ecstasy (2000)
  • The Raven (2003)
  • Hudson River Wind Meditations (2007)
  • Lulu (2011; gyda Metallica )

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg)  Williams, Richard (28 Hydref 2013). Lou Reed obituary . The Guardian . Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg)   Obituary: How Lou Reed shaped rock . BBC (28 Hydref 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg)   Lou Reed (American musician) . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  4. (Saesneg)  Dolan, Jon (27 Hydref 2013). Lou Reed, Velvet Underground Leader and Rock Pioneer, Dead at 71 . Rolling Stone . Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  5. (Saesneg)  Perrone, Pierre (28 Hydref 2013). Lou Reed obituary: Singer and founder of the Velvet Underground . The Independent . Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  6. (Saesneg)  Ratliff, Ben (27 Hydref 2013). Lou Reed: Outsider Whose Dark, Lyrical Vision Helped Shape Rock ’n’ Roll . The New York Times . Adalwyd ar 28 Hydref 2013.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: