Hanesydd
Americanaidd
oedd
Jonathan Steinberg
(
8 Mawrth
1934
?
4 Mawrth
2021
) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o
Otto von Bismarck
,
Bismarck: A Life
(2011).
Ganed yn
Efrog Newydd
i deulu
Iddewig
.
Rabi
yn synagog Park Avenue,
Manhattan
, oedd ei dad Milton Steinberg. Mynychodd Jonathan
ysgol flaengar
Walden, a dan nawddogaeth y teulu Warburg cafodd ei anfon i
Brifysgol Harvard
. Derbyniodd ei radd mewn economeg ym 1955.
[1]
Aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1961 i gychwyn ar ei ddoethuriaeth dan oruchwyliaeth Harry Hinsley. Penodwyd Steinberg yn gymrawd ymchwil yng
Ngholeg Crist
ym 1963, ac yn gymrawd yng
Neuadd y Drindod
ac yn is-ddarlithydd yng Nghaergrawnt ym 1966. Cyhoeddodd ei draethawd doethurol ar ffurf y llyfr
Yesterday's Deterrent: Tirpitz and the Birth of the German Battle Fleet
(1965). Cafodd ei ddewis i diwtora
Siarl, Tywysog Cymru
ar bwnc hanes.
[1]