John Coltrane

Oddi ar Wicipedia
John Coltrane
Ganwyd John William Coltrane  Edit this on Wikidata
23 Medi 1926  Edit this on Wikidata
Hamlet  Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Gorffennaf 1967  Edit this on Wikidata
Huntington, Efrog Newydd, Dinas Efrog Newydd   Edit this on Wikidata
Man preswyl John Coltrane House, Hamlet, Indianapolis , John Coltrane Home  Edit this on Wikidata
Label recordio Blue Note, Atlantic Records, Impulse!, Prestige, ABC Records  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Combs College of Music
  • William Penn High School  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arweinydd band, cyfansoddwr , arweinydd, cerddor jazz, chwaraewr sacsoffon, canwr   Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Atlantic Records
  • Blue Note
  • Impulse!
  • Prestige  Edit this on Wikidata
Arddull jazz , modal jazz, free jazz, post-bop, hard bop  Edit this on Wikidata
Priod Alice Coltrane  Edit this on Wikidata
Plant Ravi Coltrane  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, 100 Greatest African Americans, Pulitzer Prize Special Citations and Awards, North Carolina Music Hall of Fame  Edit this on Wikidata
Gwefan https://www.johncoltrane.com/   Edit this on Wikidata

Sacsoffonydd a chyfansoddwr jazz o America oedd John William Coltrane ( 23 Medi 1926 ? 17 Gorffennaf 1967 ), a adnabuwyd weithiau fel " Trane ". [1] Gan ddechrau chwarae yn arddulliau bebop a bop galed , roedd Coltrane (ar yr un pryd a'i gyfaill a'i gyd-berfformiwr Miles Davis ) yn arloesol wrth gyflwyno moddau cerddorol i jazz, ac yn hwyrach yn ei yrfa roedd yn ffigwr allweddol yn jazz rhydd . Er gwaethaf ei yrfa cymharol fyr - dim ond deng mlynedd sydd rhwng ei record gyntaf dan ei enw ei hun a'i farwolaeth - fe'i hystyrir yn un o gerddorion pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif , yn un o ffigyrau canonaidd jazz ac yn un o'r sacsoffonwyr pwysicaf erioed. [1]

Gyrfa gynnar [ golygu | golygu cod ]

Bu Coltrane yn chwarae'r clarinet cyn dechrau ar y sacsoffon yn yr ysgol. [2] Bu'n chwarae ym mandiau cymunedol ac ysgol cyn ymuno a'r llynges a chwarae ym mandiau yno hefyd. Roedd Charlie Parker yn ddylanwad cynnar, ac ar ol gadael y llynges aeth Coltrane ymlaen i chwarae ym mandiau nifer o gerddorion eraill gan gynnwys Dizzy Gillespie a Johnny Hodges .

Daeth yn fwy adnabyddus fel rhan o bumawd mawr gyntaf Miles Davies yn 1955. Ar gefn ei waith gyda Davis dechreuodd recordio'n fynych yn ystod 1957. I'r cyfnod hwn mae recordiau mawr gyntaf Coltrane yn perthyn. Bu Davis yn ddylanwad pwysig iawn, a dilynodd Coltrane y trwmpedwr drwy gyflwyno moddau cerddorol i'w gerddoriaeth. Ar yr un pryd, datblygodd arddull unigryw ar y sacsoffon gan symud oddi wrth bebop ac arddull Charlie Parker ; defnyddir y term sheets of sound ar gyfer dull Coltrane o chwarae ar recordiau megis Giant Steps (1957). Arhosodd gyda Davis (ac eithrio cyfnod sabothol ym mand Thelonious Monk ) am weddill y 50au cyn gadael yn 1960 i ffurfio ei fand ei hun.

Y Pedwarawd 'Clasurol' [ golygu | golygu cod ]

Ar ol gadael Davis, ffurfiodd Coltrane ei fand ei hun gyda McCoy Tyner ar y piano, Elvin Jones ar y drymiau, a nifer o faswyr cyn i Jimmy Garrison gwblhau'r band yn 1962. Y gr?p hwn oedd band enwocaf Coltrane ac fe recordiwyd nifer fawr o weithiau gyda nhw rhwng 1962 a 1965. Record enwocaf y band oedd A Love Supreme a recordiwyd yn hwyr yn 1964 cyn ei chyhoeddi yn 1965. Darn crefyddol, defosiynol oedd hwn, ac fe'i hystyrir yn un o recordiau pwysicaf yn hanes jazz.

Gwaith Hwyr [ golygu | golygu cod ]

Yn ystod y 60au roedd cerddoriaeth Coltrane yn dangos fwyfwy dylanwad jazz rhydd . Dechreuodd Coltrane gyflwyno technegau'r arddull i'w chwarae ac i chwarae ei fand, er gwaethaf yr ymateb cymysg a gafodd y newid hwn gan feirniaid y cyfnod. Roedd yr albwm Ascension yn 1965 yn dangos newid mawr: byrfyfyrio pur gan gr?p mawr oedd hwn oedd yn llawer mwy chaotig na'r gerddoriaeth a glywyd ganddo yn gynharach. Gadawodd Tyner a Jones yn 1965 ac fe gymerwyd eu llefydd yn y band gan Alice Coltrane (gwraig John) ac Rashied Ali . Yn ystod yr un cyfnod ymunodd Pharaoh Sanders y gr?p fel ail sacsoffonydd.

Bu farw Coltrane o ganser yr afu yn 1967 yn 40 oed yn unig; mwy na thebyg bu defnydd sylweddol o alcohol a chyffuriau yn ystod ei fywyd yn ffactor.

Dylanwad [ golygu | golygu cod ]

Cymerodd Coltrane le Charlie Parker fel sacsoffonydd mwyaf dylanwadol jazz. Bu'n ddylanwad uniongyrchol mawr ar bron i bob sacsoffonydd yn y gerddoriaeth a ddaeth ar ei ol, gan gynnwys nid yn unig y rhai a chwaraeodd gydag ef megis Pharaoh Sanders ac Archie Shepp , ond hefyd eraill fel Wayne Shorter ynghyd a sacsoffonwyr cyfnodau diweddarach megis David Murray a Joe Lovano . Coltrane yw un o ffigyrau canolog jazz rhydd a ffigyrau pwysicaf jazz yn y cyfnod ar ol 1960au.

Rhestr Recordiau [ golygu | golygu cod ]

Rhestr yw'r isod o holl recordiau Coltrane a gynhyrchwyd dan ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth ef, yn ystod ei fywyd. Nid yw'n cynnwys nifer fawr o recordiau byw swyddogol ac answyddogol, sesiynau dan arweinyddiaeth eraill, neu sesiynau na chafodd ei ryddhau tan ar ol i Coltrane symud ymlaen i gwmni arall (neu ar ol iddo farw).

Prestige and Blue Note Records [ golygu | golygu cod ]

  • Coltrane (1957)
  • Blue Train (1957), ei unig sesiwn i Blue Note
  • John Coltrane with the Red Garland Trio (1958)
  • Soultrane (1958)

Atlantic Records [ golygu | golygu cod ]

Impulse! Records [ golygu | golygu cod ]

  • Africa/Brass (1961)
  • Live! at the Village Vanguard (ymddangosiad cyntaf Jimmy Garrison ) (1962)
  • Coltrane (albwm gwahanol i'r un o 1957 dan yr un enw. Hwn oedd y record gyntaf gyda'r pedwarawd 'clasurol' yn unig) (1962)
  • Duke Ellington & John Coltrane (1963)
  • Ballads (1963)
  • John Coltrane and Johnny Hartman (1963)
  • Impressions (1963)
  • Live at Birdland (1964)
  • Crescent (1964)
  • A Love Supreme (1965)
  • The John Coltrane Quartet Plays (1965)
  • Ascension (y pedwarawd fel rhan o grwp mawr) (1966)
  • New Thing at Newport (gydag Archie Shepp ) (1966)
  • Kulu Se Mama (1966)
  • Meditations (pedwarawd gyda Pharoah Sanders ac Rashied Ali ) (1966)
  • Live at the Village Vanguard Again! (1966)
  • Expression (albwm olaf Coltrane) (1967)

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 John Coltrane . allmusic
  2. Group, The Jazz Sipper (2013-03-13). The History of Jazz and the Jazz Musicians . Lulu Press, Inc. ISBN   9781257544486 . [ dolen marw ]