Iwstinian I
|
---|
|
Ganwyd
| Petrus Sabbatius
11 Mai 482, 11 Mai 483
Tauresium
|
---|
Bu farw
| 14 Tachwedd 565
Caergystennin
|
---|
Dinasyddiaeth
| yr Ymerodraeth Fysantaidd
|
---|
Galwedigaeth
| deddfwr,
gwleidydd
, ymerawdwr,
ysgrifennwr
|
---|
Swydd
| seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd
|
---|
Dydd g?yl
| 14 Tachwedd
|
---|
Tad
| Unknown, Justin I
|
---|
Mam
| Vigilantia
|
---|
Priod
| Theodora
|
---|
Plant
| Theodoros Tziros
|
---|
Llinach
| llinach Iwstinian
|
---|
Ymerawdwr Bysantaidd
rhwng
527
a
565
oedd
Iwstinian I
, hefyd
Iwstinian Fawr
(
Lladin
:
Flavius Petrus Sabbatius Justinianus
,
Groeg (iaith)
:
Φλ?βιο? Π?τρο? Σαββ?τιο? Ιουστινιαν??
482
/
483
?
13
neu
14 Tachwedd
565
).
Ganed Iwstinian yn
Illyria
; mae'n ymddangos mai Lladin oedd ei iaith gyntaf yn hytrach na Groeg. Aeth ei ewythr
Justinus
i
Gaergystennin
a phan daeth yn ddylanwadol yn y gard ymerodrol, galwodd Iwstinian yno ato a'i fabwysiadu. Daeth Justinus ym ymerawdwr, a chredir i Iwstinian fod a rhan bwysig yn rheoli'r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad ef. Ar farwolaeth Justinus, daeth Iwstinian yn ymerawdwr ar
9 Awst
527
.
Cafodd Iwstinian ddylwanwad mawr ar yr ymerodraeth. Dechreuodd ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, y
renovatio imperii
neu "adfer yr ymerodraeth". Dan gadfridogion fel
Belisarius
a
Narses
, enillwyd tiriogaethau eang yn ol yn y gorllewin, er na allodd yr ymerodraeth ddal ei gafael arnynt yn y pen draw.
Bu Iwstinian hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu
Cyfraith Rhufain
, y
Corpus Juris Civilis
sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Bu adfywiad diwylliannol yn ystod ei deyrnasiad hefyd, gan gynnwys adeiladu eglwys enwog
Hagia Sophia
yng
Nghaergystennin
.
Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Iwstinian gan
Bla Iwstinian
, yn ol pob tebyg
y Pla Du
, a darawodd yr ymerodraeth yn y
540au
cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Iwstinian ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd
Procopius
.