- Am y digrifwr a ffarmwr, gweler
Ifan Gruffydd (digrifwr)
Awdur Cymraeg
oedd
Ifan Gruffydd
(
1 Chwefror
1896
?
4 Mawrth
1971
). Mae'n adnabyddus fel awdur dwy gyfrol o
hunangofiant
sy'n portreadu diwylliant gwerinol
Cymraeg
Ynys Mon
yn y cyfnod o ddiwedd y 19g hyd y 1930au.
[1]
Brodor o blwyf
Llangristiolus
, Mon oedd Ifan Gruffydd. Ar wahan i gyfnod o wasanaeth milwrol yn y
Rhyfel Byd Cyntaf
, treuliodd ei oes yn ardal Paradwys yn ei blwyf enedigol. Dechreuodd ei yrfa fel gwas fferm cyflogedig ac yn ddiweddarach gofalodd am swyddi'r
Cyngor Sir
. Roedd yn bregethwr lleyg a dramodydd lleol cyn iddo ymroi i ysgrifennu ei hunangofiant cyntaf
G?r o Baradwys
, a gyhoeddwyd yn 1963. Dilynwyd hyn gan
Tan yn y Siambr
(1966).
[1]
Gwerthfawrogir ei bortread o fywyd cymdeithas amaethyddol werinol yr ynys fel cofnod o ffordd o fyw diflanedig ac am ei Gymraeg rhywiog, naturiol. Fel y noda'r
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
:
- "Fel llanc cafodd ei siar o anffawd ond lluniodd mewn Cymraeg rhywiog dihafal a chyda hiwmor goffhad meistrolgar i ffordd arbennig, diflanedig o fyw."
[1]
- G?r o Baradwys
(
Gwasg Gee
, 1963)
- Tan yn y Siambr
(Gwasg Gee, 1966)
- Cribinion
, gol. J. Elwyn Hughes (1971). Detholiad o straeon byrion gan Ifan Gruffydd gydag ysgrifau amdano gan rai o'i gyfeillion.
- ↑
1.0
1.1
1.2
Meic Stephens (gol.),
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru