Mae'r
gwningen
(llu.
cwningod
) yn
famolyn
bychan yn y teulu
Leporidae
a'r urdd
Lagomorpha
, sydd i'w cael mewn sawl rhan o'r byd. Mae yna saith gwahanol
genera
yn y teulu a ddosberthir fel cwningod, yn cynnwys y
Cwningod Ewropeaidd
(Oryctolagus cuniculus)
(
Oryctolagus cuniculus
), Cwningod Cynffon Cotwm (genws Sylvilagus; 13
rhywogaeth
), a'r Gwningen Amami (
Pentalagus furnessi
, sydd mewn peryg o ddarfod, o Amami ?shima,
Japan
). Mae'r gwningen, y picas a'r
ysgyfarnog
oddi fewn i'r
urdd
Lagomorpha
. Yn wahanol i'r sgwarnog, mae'r gwningen yn byw mewn twll yn y ddaear, a elwir yn 'dwll gwningen'.
Nid yw'r gwningen yn frodorol o wledydd Prydain ond credir iddynt gael eu cyflwyno i'r gwyllt yng nghyfnod y
Normaniaid
.
[1]
Fel y disgwyliad nid oes gair brodorol,
Frythoneg
na
Chymraeg
am gwningen. 'Ewig' yw'r fenyw (fel gyda charw) a 'bwch' yw'r gair am y gwryw (fel gyda 'bwch gafr' neu garw: 'bwch danas'). 'Lefren' yw'r gwningen fechan a 'lefrod' yw'r lluosog. Tarddiad y gair cwningen yw'r Saesneg Canol
konyng
sy'n tarddu o'r
Ffrangeg
Normanaidd, fel y benthyciwyd
rabbette
hefyd i'r Saesneg, yn eitha diweddar.
[2]
Yn
Rhuthun
,
Sir Ddinbych
ceir hen lwybr a elwir yn
Cunning Green
, gyda'r gair cyntaf a 'chwningen' o'r un tarddiad. Gelwir y tir wedi ei neilltuo neu wedi ei amgau, lle megir cwningod, yn 'gwninger' neu'n 'gwningar, sef 'caer y gwningen.
Fel y sonnir uchod, nid oes air cynhenid yn y Gymraeg na’r Saesneg am gwningen. Dim syndod gan mai anifail a gyrrhaeddodd
Ynys Brydain
gyda’r Normaniaid ydi’o. O’r gair ‘’conyng’’
Ffrangeg
Normanaidd mae cwningen yn tarddu. Ond geiriau benthyg sydd amdani yn y Llydaweg hefyd. Ai arwydd mai anifail “dwad” ydi hi yn Llydaw hefyd?
[3]
Iepure
yw'r gair
Rwmaneg
am gwningen yn ogystal a
sgwarnog
; mae'r gair yn deillio'n hollol reolaidd o ffurf
Ladin
megis
iepore
(m), sy'n digwydd ymhob un o'r
ieithoedd romanaidd
eraill yn eu hamrywiol ffurfiau (Ffr.
lievre
, Sb.
liebre
) ond y cwbl yn golygu sgwarnog yn unig gan fod y rhan fwyaf ohonynt wedi cadw'r gair Lladin fel y Gymraeg ar gyfer y gwningen. Ni wyddys beth fydd
Rwmaniaid
yn galw cwningen wyllt, ond
iepure de casa
ydi un ddof, h.y. 'sgwarnog ty'. Yn ol y
Geiriadur Beiblaidd
,
Hyrax Syriacus
[
sic
] yw "cwningen" y Beibil, creadur digon tebyg i
fochyn cwta
. Mae'n debyg fod yr enw
rock badger
hefyd ac mae llyfr Henriette Walter
Les Noms des mammiferes
yn dangos fod elfen sy'n golygu craig neu garreg yn rhan o'i enw yn yr Almaen a gwledydd Llychlyn.
[4]
Dengys tystiolaeth archeolegol ar ffurf esgyrn cwningen o
Lynford
,
Norfolk
mai y
Rhufeiniaid
gyflwynodd y cwningen i ynysoedd Prydain gyntaf, rhai dof ar gyfer eu cig mae’n debyg
[5]
. ’Does dim tystiolaeth eu bod wedi dianc i’r gwyllt yn y cyfnod hwnnw. Fe’u hail-gyflwynwyd gan y Normaniaid rywdro ar ol
1066
ar gyfer eu cig a’u crwyn ac roeddent yn eu magu mewn llefydd pwrpasol ? un ai ar ynys, neu mewn lle a elwid yn wning-gaer, neu warrin a oedd, fel arfer, ar dir tywodlyd, hawdd i’r cwningod dyllu iddo, fel
twyni tywod
ger yr arfordir. Byddid yn gwarchod y gwning-gaerydd hyn yn ofalus i arbed eu preswylwyr rhag adar sglyfaethus,
llwynogod
,
carlymod
a lladron deudroed ? roedd cwningod yn greaduriaid gwerthfawr. Fe welwn “Gwningar” a “Warin” yn enwau lleoedd mewn sawl ardal hyd heddiw. Sonia
Gerallt Gymro
am fagu cwningod ym
Mhenfro
yn y 12fed ganrif. Parhaodd yr arfer o fagu cwningod fel hyn am ganrifoedd ac, yn y 18fed ganrif, byddai amryw o stadau cefn gwlad yn cadw gwning-gaerydd. Er y byddai ambell wningen yn dianc i diroedd amaethyddol cyfagos o bryd i’w gilydd, wnaethon nhw ddim cynyddu’n ormodol bryd hynny am fod digon o lwynogod,
cathod gwylltion
(rhai go iawn!),
ffwlbartod
, carlymod,
bele goed
ac adar fel y
bwncath
a’r
barcud
i’w cadw dan reolaeth.
Cynllun ar un o deils a ddaeth i’r fei wrth gloddio yng nghadeirlan Bangor yw'r llun a welir yn
Archaeologia Cambrensis
1895
[6]
[1]
. Mae’n dyddio mae’n debyg o’r 13eg ganrif, sef cofnod o gwningen yn fuan iawn ar ol ei chyflwyniad yma. Mae’r gwningen (chwith uchaf yn y llun) fel petai’n dod allan o dwll, ond beth tybed yw’r bwystyfil i’r dde
[7]
Gwelir “Gwningaer” a “Warin” mewn enwau lleoedd. Yn y
18g
cadwai amryw o stadau gwledig eu gwning-gaerydd, ond er i gwningod ddianc i diroedd amaethyddol cyfagos ni ddaethant yn niferus iawn tra parhai'r gath wyllt, yffwlbart, y bele ac adar ysglyfaethus yn gyffredin. Yna, wrth i'r creaduriaid hyn gael eu difa gan giperiaid yn yr 19g, cynyddodd y cwningod yn bla erbyn dechrau'r
20g
. Daliai cwningwyr proffesiynnol hwy gyda ffureti, trapiau, a “rhwyd fawr” mewn cae yn ystod nos. Allforiwyd 3 miliwn o wningod o D
dyfed
bob blwyddyn yn y 1940au, ar drenau i
Lundain
a dinasoedd eraill.
Gwelwyd cynnydd enfawr yn niferoedd cwningod drwy’r 19eg ganrif am ddau brif reswm. Yn gyntaf, aeth ciperiaid y stadau ati i ddifa yr anifeiliaid ac adar ysglyfaethus fu’n rheoli eu niferoedd hyd hynny. Yn ail, wrth i diroedd gael eu cau a niferoedd gwartheg a defaid gynyddu, arweiniodd hynny at greu llawer mwy o’r porfeydd byr y mae cwningod mor hoff ohonynt a byddai codi cloddiau newydd yn darparu cynefin magu perffaith iddynt. O ganlyniad, cynyddu wnaeth y cwningod gan ddod yn bla go iawn erbyn dechrau’r 20fed ganrif.
Eisoes, erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd difrod i gnydau yn broblem fawr i ffermwyr ar hyd a lled y wlad. Ond mewn sawl ardal roedd angen bod yn ofalus rhag tramgwyddo yn erbyn
ciperiaid
y stadau lleol a ystyriai cwningod yn eiddo preifat ac yn rhan o helwriaeth y tirfeddiannwr. Ceid cosb lem am ‘botshio’ cwningen.
Yn y diwedd roedd cwningod wedi dwad yn gymaint o bla nes bu raid caniatau i wningwyr proffesiynnol eu dal efo ffureti, maglau ac yn arbennig y ‘rhwyd fawr’ oedd yn cael ei gosod mewn cae yn ystod nos a honno’n ymestyn am ugeiniau o lathenni. Adeg y ddwy Ryfel Byd roedd gwningod yn cael eu dal yn eu miliynnau i fwydo pobol y dinasoedd. Er enghraifft yn y 1940au mi fyddai 3 miliwn o wningod yn cael eu gyrru o siroedd Dyfed bob blwyddyn ar drenau i Lundain a dinasoedd eraill. Ar ddechrau 1954 amcannir bod hyd at 500 o ddalwyr cwningod llawn amser ar waith ym Mon, Eifionydd a Ll?n
[5]
Yn nhywyn
Niwbwrch
, fel sawl man arfordirol arall, roedd y bobol leol yn "trapio cwningod" yn ol tymor a alwyd yn "sesyn gwningod". Y sesyn gwningod oedd rhwng dechrau Medi a diwedd Chwefror. Bob nos Sadwrn roeddynt yn mynd i gau'r trapiau fel nad oedd dal cwningen yn digwydd ar ddydd Sul. Yna bob dydd Llun roeddynt yn mynd i godi a symud y trapiau i ddarn newydd o'r tywyn gan symud tuag at y mor. Yn aml, byddent yn dal 80 o gwningod bob dydd. Yn 1945 ar gyfartaledd roeddynt yn cael 30
swllt
yr wythnos am y gwaith yma.
Wedi’r llanw, y trai! Er gwaetha’r holl hela, roedd niferoedd y gwningod yn dal yn uchel ? am eu bod yn magu mor eithriadol o gyflym! Yna, yn ystod haf gwlyb 1954, fe newidiodd pethau’n llwyr pan ledodd y clwy gwningod,
Myxomatosis
, neu’r micsi, drwy’r wlad. Erbyn 1955 roedd 98% o wningod Cymru yn gelain.
Yn 1897 y canfyddwyd y micsi gyntaf, yn
Uruguay
, pan fu i stoc o wningod Ewropeaidd, mewn labordy ym
Montevideo
, farw bron i gyd efo’r symptomau ddaeth yn adnabyddus fel y Myxamatosis. Cludwyd y
feirws
a achosai’r clwy i’r cwningod Ewropeaidd dof gan
fosgitos
o wningod gwyllt de America ? sy’n eitha imiwn i’r afiechyd.
Sylweddolwyd, cyn gynhared a 1927, bod potensial mawr i’r micsi i reoli pla gwningod a chynhaliwyd treialon i ymchwilio i hynny, yma yng Nghymru a
Lloegr
yn 1936 ac
Awstralia
yn 1938. Yn Awstralia, gyda llaw, gwelwyd fod y micsi yn gweithio’n iawn yn y de, lle roedd digon o fosgitos i’w ledu, ond yn fethiant ar y paith sych, sy’n rhydd o fosgitos.
Ar
Ynys Sgogwm
yn
Sir Benfro
y cynhaliwyd y treialon Cymreig, ac mae disgrifiad y naturiaethwr RM Lockley o’r arbrawf yn glasur
[8]
Methiant oedd y treialon Cymreig oherwydd, er gwaetha cyflwyno ac ail gyflwyno’r clwy, ychydig iawn o wningod a laddwyd ? heblaw y rhai oedd wedi eu heintio yn fwriadol yn y lle cyntaf. Ond roedd y clwy’n gwneud ei waith yn iawn yn ne Lloegr. A’r rheswm pam?
Chwain
oedd yn gwneud gwaith y mosgitos ac yn ei ledu ym Mhrydain, a thra ceid digon o’r rheiny yn Lloegr ac ar y tir mawr, roedd Sgogwm yn ynys ddi-chwain.
Pan gyflwynwyd y micsi o Ffrainc yn anghyfreithlon i dde Lloegr yn 1953-1954 lledodd fel tan gwyllt. Mae’n wir y bu adferiad graddol yn eu niferoedd ers hynny wrth i wningod fagu imiwnedd yn raddol bach ond go brin y cynyddan nhw byth i’w niferoedd plagus blaenorol.
Yng ngwledydd Prydain, am ganrifoedd, a hyd heddiw i raddau, magwyd cwningod er mwyn eu crwyn a'u cig, fel arfer ar ynys neu gwningar mewn twyni tywod e.e.
Bodorgan
,
Ynys Mon
. Erbyn y
18g
roedd gan lawer o ystadau gwningaroedd arbennig ar eu cyfer. Nid oeddent, fodd bynnag, yn niferus gan fod cynifer o anifeiliaid eraill o gwmpas i'w hela, gan gynnwys y
cath wyllt
, y
ffwlbart
,
bele'r coed
a sawl math o
adar ysglyfaethus
. Ond wrth i'r anifeiliaid ysglyfaethus hyn gael ei difa gan giperod, cynyddodd y cwningod nes iddynt ddod yn bla. Ar ddechrau'r
20g
gwelwyd helwyr proffesiynol yn eu dal i'w bwyta. Yn y
1950
ymledodd clefyd y
mycsomatosis
drwy wledydd Prydain gan ddifa 99% o'u poblogaeth. Ar lafar, dywedir fod rhai pob yn 'magu fel cwningod'.
Mae hanner cwningod y byd yng
Ngogledd America
. Maen nhw hefyd yn frodorol o
Ewrop
, de-ddwyrain
Asia
,
Swmatra
a rhai o ynysoedd
Japan
a rhannau o
Affrica
a
De America
.
Yn Tsieina mae hi’n flwyddyn y wningen [2011] a phan ddaeth yn flwyddyn newydd, ar y 3ydd o Chwefror, mi gafodd groeso mwy nag arfer. Yno, mae’r blynyddoedd yn cael eu cysylltu a ryw ’nifail, neu’i gilydd mewn cylch o 12, sy’n golygu mai 1999 oedd blwyddyn y wningen dd’wytha a 2023 fydd y nesa. Pam y croeso?
Wel, am fod y wningen yn greadures ddigynnwrf ac yn arwydd o sefydlogrwydd. Ac yn Tsieina mae angen hynny yn dilyn llynedd, oedd yn flwyddyn y teigar ? sy’n greadur go ffyrnig ? pryd cafwyd blwyddyn go hegar o ran yr economi a thrychinebau naturiol, fel daeargrynfeydd a llifogydd. Mi oedd pobol mor falch o weld blwyddyn y wningen nes y cododd yr indecs Feng Shui ? sef eu mesur nhw o werth cyfranddaliadau ar y gyfnewidfa stoc. Ond, mi ddylsen ni gofio un peth (ac e’lla mod i’n hollti blew yn fa’ma rwan) ? mai nid blwyddyn y wningen ydi hi go iawn, ond blwyddyn y sgwarnog ? oherwydd does na’m gw’ningod gwyllt yn Tsieina! Ond mae ’na 7 math o sgwarnog. Mi gyflwynwyd gwningod dof, ar gyfer eu b’yta, i Tsieina, o Ewrop ryw 2 ? 3 canrif yn ol. Ac am nad oedd enw gwahanol yn yr iaith Tsineaidd am wningen, dydyn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y naill na’r llall. Felly, blwyddyn y sgwarnog ydi hi i’r Tsieineaid. Ond am fod delwedd y sgwarnogod bach ar eu calendrau nhw mor wningllyd mae pobol y gorllewin yn cymryd mai blwyddyn y wningen ydi hi. Mae gwningod, lle bynnag maen nhw i’w cael ar draws y byd, wedi procio dychymyg pobol ? yn destyn straeon di-ri, a chorff mawr o goelion a llen gwerin. Ro’n i wrth fy modd yn Ysgol Bach Clynnog ers talwm pan fydda’ Mr Wilias Sg?l yn darllen straeon Br’er Rabbit a’i gyfrwystra yn dianc rhag B’rer Fox neu B’rer Ber. Straeon caethweision America oedd y rhain yn wreiddiol, ac yn seiliedig ar straeon o Affrica am y sgwarnog ddireidus, sy’ o hyd yn chwarae triciau ar yr eliffant a’r llew a’r haina. Y bychan yn trechu’r mawr ynde? ‘Os na fyddi gryf, bydded gyfrwys’. I Geltiaid y cyfandir, mi fydda cwninen, am ei bod yn bridio mor doreithiog, yn symbol grymus o ryw, ffrwythlondeb, ac atgyfodiad bywyd yn y gwanwyn o farwolaeth oerllyd y gaeaf.
Ac mi barhaodd y wningen, a’r ?y ? sy’n symbol cry arall o ail-enedigaeth y gwanwyn, yn boblogaidd hyd heddiw, fel ryw ychwanegiadau seciwlar, siocledaidd, i ddathliadau’r Pasg. Mi aeth rhai, yn Mericia, ati i ecsploetio’r cyswllt symbolaidd rhwng y wningen a rhyw, i’w dibenion ariangar eu hunnain a sefydlu cylchgrawn o’r enw ‘Playboy’ (’dwi ar dd’allt ei fod o ar gael yma hefyd) a chadwen o Glybiau Byni i ddennu pobl (dynion ran fwya), i weld rhyw sioeau go bedachingalwfo, ond diniwed ’fyd, a lle maen nhw’n cyflogi merched ifanc deniadol iawn i weithio tu ol i’r bar ac i weinyddu’r byrddau ? a rheiny heb ryw lawer iawn amdanyn nhw a pishyn o fflyff gwyn, fatha cynffon gwningen, ar eu penola nhw! Rhain ydi’r 'Byni Gyrls’. Hm!?
Mi fydda hen Geltiaid y cyfandir yn ystyried bod y wningen, am ei bod hi’n tyllu dan y ddaear, yn medru mynd a dod rhwng ein byd ni ag Annwfn, neu’r arall-fyd. Dyma pam y gwaherddid byta cig gwningen, rhag ofn mai un o’ch perthnasau marw chi (eich nain chi, e’lla) oedd wedi dwad i’n byd ni ar ymweliad ? ar ffurf gwningen. Na, doedd y Celtiaid ddim yn credu mewn canibaliaeth. Ond mi oedden nhw’n credu y gallasai gwrach newid ei ffurf a throi’n wningen (h.y. ar y cyfandir), a sgwarnog yma ? oherwydd doedd dim gwningod yng Nghymru tan i’r Normaniaid eu cyflwyno nhw, ryw 900 mlynedd yn ol. Mi awn ni ar ol hynny y tro nesa...
[9]
Arwyddion cyntaf
- Bwlchtocyn 15 Awst 1954: Sul neis ers tro byd. Gweld gwningen efo clwy arni am tro cyntaf ar Tanllech.
- Bwlchtocyn 2 Medi 1954: Claddu dau gwpl heddiw eto. Da iawn cael eu difa nhw.
- Bwlchtocyn 4 Medi 1954: Cawod bach ganol dydd, od o braf wedyn. Claddu cwningod 9 cwpwl.
- Bwlchtocyn 18 Medi 1954: Claddu 8 a hanner cwpl.[cwningod]
[10]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i
Twm Elias
ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan
Defnyddiwr:Twm Elias
. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).