Cefin Roberts

Oddi ar Wicipedia
Cefin Roberts
Ganwyd 28 Hydref 1953  Edit this on Wikidata
Llanllyfni   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru
Alma mater
Galwedigaeth actor , cerddor , cyfarwyddwr  Edit this on Wikidata

Awdur, actor, cyfarwyddwr theatrig a cherdd o Gymro yw Cefin Roberts (ganwyd 28 Hydref 1953 ).

Magwyd Cefin yn Llanllyfni , Dyffryn Nantlle ac yn byw ym Mangor. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd . Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor gan weithio o dan ofal Wilbert Lloyd Roberts yn ysgrifennu a chyfarwyddo. [1] [2]

Fe sefydlodd Cefin y grwp poblogaidd " Hapnod " gyda'i wraig Rhian yn yr wythdegau cynnar. Fe ddarlledwyd tair cyfres o "Hapnod" - rhaglen adloniant ysgafn ar S4C yn yr 1980au. [3]

Gyrfa [ golygu | golygu cod ]

Sefydlodd Ysgol Glanaethwy yn 1990 ym Mharc Menai, Bangor , yr ysgol berfformio cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Ymunodd a chriw cynhyrchu Rownd a Rownd yn 1995 ac roedd yn bennaf gyfrifol am fraslunio straeon i'r gyfres. Derbyniodd Gymrodoriaeth gan y Coleg Cerdd a Drama yn 1997 a Chymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn 2001 am ei wasanaeth i fyd y theatr ac ym maes hyfforddi ieuenctid. [2] Bu'n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2003 a 2010. [4]

Yn 2003, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau am ei nofel Brwydr y Bradwr . [2]

Bywyd Personol [ golygu | golygu cod ]

Mae'n briod a Rhian Roberts ac mae'n dad i Mirain Haf a Tirion Anarawd. [2] Mae Mirain hefyd yn actores a chantores nodedig a cyhoeddwyd llyfr ffeithiol Cefin Roberts a Mirain Haf am y tad a'r ferch yn 2004.

Gwaith cyhoeddedig [ golygu | golygu cod ]

Teitl Blwyddyn Gwasg Nodiadau
Brwydr y Bradwr 2003 Gwasg Gwynedd
Cymer y Seren 2009 Gwasg Gwynedd
Perffaith Chwarae Teg, Ysgol Glanaethwy 1990-2011 2011 Gwasg Carreg Gwalch Hanes Ysgol Glanaethwy, yng ngyfres 'Syniad Da'
Cofion, Cefin 2012 Gwasg y Bwthyn
Sgin Ti Fonolog 2018 Gwasg y Bwthyn
Os na ddon nhw 2019 Lolfa Nofel
Nadolig Pwy a Wyr 2 2019 Gwasg y Bwthyn Amlgyfrannog

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]