Catherine O'Hara
|
---|
|
Ganwyd
| Catherine Anne O'Hara
4 Mawrth 1954
Toronto
|
---|
Man preswyl
| Los Angeles
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
,
Canada
|
---|
Alma mater
| - Burnhamthorpe Collegiate Institute
|
---|
Galwedigaeth
| actor teledu, actor ffilm,
actor
,
sgriptiwr
, actor llais, cyfansoddwr caneuon,
canwr
,
cyfarwyddwr ffilm
, byrfyfyriwr, cyfarwyddwr
|
---|
Pwysau
| 50 cilogram
|
---|
Priod
| Bo Welch
|
---|
Plant
| Matthew Welch, Luke Welch
|
---|
Gwobr/au
| Earle Grey Award, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Atores mewn Cyfres Gomedi, Swyddog Urdd Canada, Canadian Comedy Award for Best Female Performance in a Feature, Canadian Comedy Award Winners for Comedians,
Urdd Canada
,
Golden Globes
, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrin
|
---|
Actores a digrifwraig Canadaidd (a dinesydd Americanaidd erbyn hyn) yw
Catherine Anne O'Hara
(ganwyd
4 Mawrth
1954
), sydd wedi ennill
Emmy
a
Gwobr Gemini
. Mae'n adnabyddus am ei gwaith digri ar
SCTV
a'i rol mewn ffilmiau, gan gynnwys Delia Deetz yn
Beetlejuice
, Kate McCallister yn
Home Alone
, Sally yn
The Nightmare Before Christmas
ac ei hymddangosiad yn ffilmiau
mockumentary
wedi ei cyfarwyddo gan
Christopher Guest
.
Dechreuodd ei gyrfa actio yn 1974 fel aelod o gast
The Second City
yn Toronto. Roedd yn ddirprwy actor ar gyfer
Gilda Radner
tan iddi adael ar gyfer
Saturday Night Live
. Dyflwydd yn ddiweddarach fe chwaraeodd y gr?p theatr hwn
SCTV
, a daeth O'Hara yn berfformiwr rheolaidd.
Yn y 1970au hwyr, fe gyflewodd y lleisiau ar gyfer nifer o gymeriadau
cart?n
, a parhaodd i wneud hyn trwy ei gyrfar. Yn ystod cyfnod byr yn yr 80au pan oedd SCTV rhwng cytundebau rhwydwaith, fe gafodd ei chyflogi i gymryd lle
Ann Risley
ar
Saturday Night Live
pan oedd yn cael ei ail-weithio yn 1981. Er, bu'n rhaid iddi ymddiswyddo heb ymddangos ar un rhaglen, gan ddewis i ddychwelyd i
SCTV
pan arwyddwyd cytundeb gyda
NBC
, a dychwelodd y rhaglen i'r awyr.
[1]
[2]
[3]
Rhoddwyd ei swydd
SNL
i
Robin Duke
, a oedd hefyd wedi cymryd lle O'Hara mewn un cyfres o
SCTV
.
Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys
After Hours
gan
Martin Scorsese
yn 1985, yn ogystal a chwarae rhanau yn ffilmiau
Tim Burton
,
Beetlejuice
a
The Nightmare Before Christmas
. Chwaraeodd Kate McCallister yn y ddau ffilm
Home Alone
. Serennodd yn ei phedwaredd ffilm
Christopher Guest
yn 2006,
For Your Consideration
(yn dilyn
Waiting for Guffman
,
Best in Show
, a
A Mighty Wind
).
Ar 9 Mehefin 2007, cafodd ei sefydlu yn
Canada's Walk of Fame
. Yn Mai 2008, datganwyd ei bod wedi arwyddo cytundeb i ymddangos yn drama ddigri
ABC
,
Good Behavior
.
[4]
Ganwyd O'Hara yn
Toronto, Ontario
i deulu
Catholig Gwyddelig
.
[5]
Wedi brodori daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau.
[6]
Priododd y
dylunydd cynhyrchu
/
cyfarwyddwr ffilm
Bo Welch
yn 1992, ac mae ganddynt ddau fab, Matthew (ganwyd 1994) a Luke (ganwyd 1997). Mae'n chwaer i'r gantores
Mary Margaret O'Hara
, er mae hi'n gantores ei hun, fel a welwyd yn y ffilm 2003,
A Mighty Wind
. Mae ganddi gyflwr meddygol o'r enw
Dextrocardia
gyda situs inversus
.
[7]
Enwogion sydd wedi cael eu dynwared gan O'Hara on
SCTV
[
golygu
|
golygu cod
]