Canolfan Mileniwm Cymru
|
Y Prif Fynedfa
|
|
Lleoliad
|
Bae Caerdydd
,
Caerdydd
,
Cymru
|
Torri Tir
|
Chwefror 2002
|
Agorwyd
|
Cyfnod 1-28fed o Dachwedd 2004
Cyfnod 2-31fed o Ionawr 2009
|
Cost
|
GB£106.2
|
Pensaer
|
Partneriaeth
Percy Thomas
,
sydd bellach o'r enw
Capita Architecture
|
Nifer o seddau
|
Theatr Donald Gordon: 1,897
BBC Hoddinott Hall: 350
Weston Studio Theatre: 250
|
Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw
Canolfan Mileniwm Cymru
a leolir yng
Nghaerdydd
. Gobeithir y bydd doniau
opera
, bale,
sioeau cerdd
a
dawns
gorau'r byd yn perfformio yno. Costiodd £104 miliwn i'w godi; darparodd y Cynulliad Cenedlaethol rant o £37 miliwn i gyfrannu at y cost, hefyd darparwyd £30.7 miliwn gan Gomisiwn y Mileniwm, a £9.8 miliwn gan Gyngor Celfyddyd Cymru. Rhoddwyd £10 milwn arall gan
Donald Gordon
, dyn busnes o
Dde Affrica
, a daeth gweddill yr arian angenrheidiol trwy gytundeb noddiant efo Cymdeithas Adeiladu'r Principality.
[1]
Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, ac yr ail rhan gan Tim Green a Keith Vince
[1]
. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd rhan cyntaf yr adaeilad yn swyddogol yn Nhachwedd
2004
ac ail ddarn y prosiect - yn cynnwys
Neuadd Hoddinott
(gyda 350 o seddi) - ar 22 Ionawr
2009
. Cynlluniwyd Neuadd Hoddinott yn fewnol fel capel.
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys
Urdd Gobaith Cymru
, yr
Academi Gymreig
Opera Cenedlaethol Cymru
,
T? Cerdd
,
Diversions - Cwmni Dawns Cymru
,
Touch Trust
a
Hijinx
. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis.
Maint y ganolfan yw 37,000 medr sgwar. Adeiladwyd gwaliau'r ganolfan gyda llechfaen o lywiau gwahanol o chwareli ar draws
Cymru
; porffor o
Benrhyn
, glas o
Chwarl Cwt-y-Bugail
, gwyrdd o
Chwarel Nantlle
, llwyd o
Chwarel Llechwedd
a du o
Chwarel Corris
. Defnyddiwyd 3,600 o dunnellau o lechu. Defnyddiwyd breuan ddu rhwng y llechu i roi argraff bod y waliau heb freuan. Defnyddiwyd dur ar do'r adeilad i gynrychioli diwydiant arall Cymru.
[1]
.
Cyfansoddwyd y geiriau ar yr adeilad gan
Gwyneth Lewis
.
[2]
Ymwelodd dros 14.75 milwn o bobl a'r ganolfan yn ystod ei degawd cyntaf.
[3]
Llysenw'r adeilad yw'r "
Armellog
".