Tref Aberystwyth
|
Enw llawn
| C.P.D. Tref Aberystwyth
|
---|
Llysenwau
| Aber
Black and Greens
The Seasiders
|
---|
Sefydlwyd
| 1884
; 140 blynedd yn ol
(
1884
)
|
---|
Maes
| Coedlen y Parc
Aberystwyth
(sy'n dal: 5,000 (1,002 yn eistedd))
|
---|
Cadeirydd
| Donald Kane
|
---|
Rheolwr
| Tony Pennock
|
---|
Cynghrair
| Uwch Gynghrair Cymru
|
---|
2023/24
| 10.
|
---|
Gwefan
| Hafan y clwb
|
---|
|
|
|
Tref Aberystwyth - Dan 19
Rheolwr
| Emyr Jones
|
---|
Cynghrair
| WPL Development League
- De
|
---|
2016?17
| 7fed
|
---|
Tref Aberystwyth - Merched
Rheolwr
| Kevin Jenkins
|
---|
Cynghrair
| Uwch Gynghrair Merched
|
---|
2016?17
| 9fed
|
---|
Ser Aberystwyth - Dan Anfantais
Sefydlwyd
| 2013
|
---|
Hyfforddwr
| Mike Price, Paul-Luke Loveridge, Iestyn Jones, Eirian Reynolds,
|
---|
Cynghrair
| Uwch Gynghrair Gorllewin Cymru (Dan Anfantais)
|
---|
Clwb
pel-droed
o dref
Aberystwyth
,
Ceredigion
yw
Clwb Pel-droed Tref Aberystwyth
(
Saesneg
:
Aberystwyth Town Football Club
). Mae'r clwb yn chwarae yn
Uwch Gynghrair Cymru
, prif adran pel-droed yng
Nghymru
.
Ffurfiwyd y clwb ym 1884
[1]
ac maent wedi codi
Cwpan Cymru
unwaith, ym 1900, yn ogystal a chynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd
UEFA
ar dair achlysur. Maent wedi bod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ers ei sefydlu ym
1992
.
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar
Goedlen y Parc
, Aberystwyth, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Mae gan y Clwb hefyd dim
Merched
, tim anabl a gwahanol dimau ieuenctid.
Ffurfiwyd y clwb ym mis
Hydref
1884
wedi i Arthur Hughes, mab i gyfreithiwr lleol, osod hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn am i chwaraewyr oedd eisiau ymuno a'r clwb newydd i gyfarfod yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth ar brynhawn Sadwrn
4 Hydref
.
[2]
. Roedd Arthur a'i frodyr Jack a Hugh yn bel-droedwyr o fri, ac roedd Jack eisoes wedi cynrychioli Cymru ddwywaith ym 1877 a 1879 tra'n fyfyriwr ym
Mhrifysgol Caergrawnt
.
Dechreuodd Aber chwarae yn y
Welsh League
ym 1896 ond dim ond am dymor, ond chwaraeodd y clwb yn rowndiau rhagbrofol
Cwpan FA Lloegr
a
Chwpan Cymru
cyn ymuno a'r
Combination League
ym 1899-1900
[3]
a cafwyd llwyddiant mwyaf y clwb yn ystod yr un tymor wrth iddynt godi Cwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes wedi buddugoliaeth 3-0 dros y
C.P.D. Derwyddon Cefn
[4]
yn
Y Drenewydd
.
Ar ol gadael y Combination League, ymunodd Aber a Chynghrair Sir Drefaldwyn a'r Cylch ym 1904
[5]
gan ennill sawl pencampwriaeth cyn ymuno a'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig (Adran y Canolbarth) ym 1921.
Llwyddodd Aber i enill Cwpan Amatur Cymru ym 1931 a 1933.
Yn ystod tymor 2021/22 daeth Aberystwyth y clwb cyntaf yn hanes i chwarae 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru
[6]
.
- Cwpan Cymru
- Enillwyr: 1899-1900
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2008-09,
2013-14
- Cwpan Amatur Cymru
- Enillwyr: 1930-31, 1932-33, 1969-70
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 1906-07, 1910-11, 1928-29, 1934-35, 1971-72
Mae'r clwb hefyd yn cynnal
C.P.D. Merched Tref Aberystwyth
sy'n chwarae ar Goedlan y Parc ac sydd yn
Uwch Gynghrair Merched Cymru
. Bu'r tim yn gyfrifol am chwarae y gem gyntaf erioed yn yr hyn a ddaeth yn Uwch Gynghrair yn 2009.
[7]