Bonnie Tyler
|
---|
|
Ffugenw
| Bonnie Tyler
|
---|
Ganwyd
| Gaynor Hopkins
8 Mehefin 1951
Sgiwen
|
---|
Label recordio
| RCA Records, Chrysalis Records, Columbia Records
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Galwedigaeth
| canwr
, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, artist recordio
|
---|
Arddull
| cerddoriaeth roc
, cerddoriaeth boblogaidd,
canu gwlad
, roc meddal, roc poblogaidd
|
---|
Math o lais
| contralto
|
---|
Priod
| Robert Sullivan
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr Steiger
|
---|
Gwefan
| https://bonnietyler.com
|
---|
Cantores bop o Gymraes yw
Bonnie Tyler, MBE
(ganwyd
Gaynor Hopkins
;
8 Mehefin
1951
) sy'n adnabyddus am ei llais pwerus a chryg.
Ganwyd Gaynor Hopkins yn
Sgiwen
ger
Castell Nedd
, i'r glowr Glyndwr a'r wraig t? Elsie Hopkins.
[1]
Fe'i magwyd mewn t? cyngor pedwar stafell wely gyda thair chwaer a dau frawd.
[1]
Roed gan ei brodyr a chwiorydd gyda chwaeth eang ewn cerddoriaeth, gan ei cyflwyno i artistaid fel
Elvis Presley
,
Frank Sinatra
and
the Beatles
.
[2]
Roedd Hopkins a'i theulu yn Brotestaniaid crefyddol iawn.
[1]
Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf fel plentyn yn y capel, yn ganu yr emyn Anglicanaidd "All Things Bright and Beautiful".
[3]
Gadawodd ysgol heb gymwysterau ffurfiol a cychwynodd weithio mewn siop groser.
[4]
Yn 1969, cystadlodd mewn cystadleuaeth ddoniau lleol ac ar ol dod yn yr ail safle, cafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa fel cantores.
[5]
Drwy ymateb i hysbyseb papur newydd, cafodd waith fel cantores cefndir i Bobby Wayne & the Dixies cyn ffurfio ei band soul ei hunan o'r enw Imagination.
[6]
Tua'r adeg hyn y newidiodd ei henw llwyfan i Sherene Davis, i osgoi cael ei drysu gyda'r gantores werin
Mary Hopkin
.
[7]
Ar ol blynyddoedd o ganu yn nhafarnau a chlybiau (gyda'r darlledydd
Chris Needs
yn cyfeilio iddi yn y dyddiau hynny) cyrhaeddodd 10 uchaf senglau
Prydain
ym
1975
gyda'r gan
Lost in France
.
Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn
1983
wrth iddi recordio albwm
Faster Than The Speed of Night
, a'r sengl
Total Eclipse of the Heart
gan
Jim Steinman
arno. Aeth y ddau i rif 1 y siartiau pop ym Mhrydain. Roedd
Total Eclipse of the Heart
yn llwyddiant masnachol rhyngwladol.
Heddiw mae ganddi d? yn y
Mwmbwls
ger Abertawe ond mae'n treulio llawer o'r flwyddyn ym
Mhortiwgal
.
Cynrychiolodd Bonnie y Deyrnas Unedig yng
Nghystadleuaeth Can Eurovision 2013
. Yn 2022 derbyniodd yr MBE am wasanaethau i gerddoriaeth".
[8]
- The World Starts Tonight
(1977)
- Natural Force
(1978)
- Diamond Cut
(1979)
- Goodbye to the Island
(1981)
- Faster Than the Speed of Night
(1983)
- Secret Dreams and Forbidden Fire
(1986)
- Hide Your Heart
(1988)
adnabyddir hefyd fel
Notes From America
(1988)
- Bitterblue
(1991)
- Angel Heart
(1992)
- Silhouette in Red
(1993)
- Free Spirit
(1995)
- All in One Voice
(1998)
- Heart Strings
(2003)
adnabyddir hefyd fel
Heart & Soul
(2002)
- Simply Believe
(2004)
- Wings
(2005)
adnabyddir hefyd fel
Celebrate
(2006)
- Rocks and Honey
(2013)
- Between the Earth and the Stars
(2019)