Bleddyn Williams

Oddi ar Wicipedia
Bleddyn Williams
Ganwyd 22 Chwefror 1923  Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg   Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Gorffennaf 2009  Edit this on Wikidata
Caerdydd   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig   Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr, chwaraewr rygbi'r undeb  Edit this on Wikidata
Taldra 178 centimetr  Edit this on Wikidata
Pwysau 83 cilogram  Edit this on Wikidata
Gwobr/au MBE  Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tim/au Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid , Tim rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru , Clwb Rygbi Trecelyn, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig   Edit this on Wikidata
Safle maswr   Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru   Edit this on Wikidata

Chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 22 o gapiau dros Gymru , fel canolwr yn bennaf, ac a adnabyddid fel "Tywysog y Canolwyr" oedd Bleddyn Llewellyn Williams , MBE ( 22 Chwefror 1923 - 6 Gorffennaf 2009 ).

Ganed ef yn Ffynnon Taf ger Caerdydd . Roedd yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig Clwb Rygbi Caerdydd . Ef oedd capten tim Caerdydd pan gawsant fuddugoliaeth dros y Crysau Duon yn 1953 a ffurfiai bartneriaeth effeithiol dros ben i Gaerdydd ac i Gymru gyda’r canolwr arall, Jack Matthews . Chwaraeodd pob un o’i saith brawd i Gaerdydd hefyd.

Chwaraeodd nifer o weithiau drost dim Cymru mewn gemau answyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau yn 1947 . Yn 1953 yr oedd yn gapten tim Cymru pan gurwyd y Crysau Duon . Chwaraeodd ei gem olaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1955 . Sgoriodd saith cais dros Gymru a bu’n gapten y tim bum gwaith i gyd, gyda Chymru’n ennill pob un o’r gemau hyn.

Aeth ar daith i Seland Newydd ac Awstralia gyda’r Llewod Prydeinig yn 1950, ac fe’i dewiswyd yn is-gapten. Chwaraeodd mewn pedair gem brawf yn erbyn y Crysau Duon a dwy yn erbyn Awstralia , un o’r ddwy fel capten. Derbyniodd yr MBE am ei wasanaethau i rygbi.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]