Baner Rwmania

Oddi ar Wicipedia
Baner Rwmania

Baner drilliw yw baner Rwmania . Cafodd ei chreu yn 1848 trwy gyfuno lliwiau Wallachia a Moldafia , y taleithiau Otomanaidd sydd heddiw yn Rwmania: glas o faner Moldafia, melyn o faner Wallachia, a choch o faneri'r ddwy dalaith sydd yn cynrychioli undod Rwmanaidd. Yn 1867 gosodwyd arfbais y wlad yn y stribed melyn canolog; cafodd yr arfbais ei newid nifer o weithiau ac yn 1948 cafodd ei hailosod gan arwyddlun comiwnyddol . Cafodd hyn ei ddiddymu yn dilyn cwymp yr Arlywydd Ceau?escu yn 1989 , a mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 27 Rhagfyr y flwyddyn honno.

Ffynonellau [ golygu | golygu cod ]

  • Complete Flags of the World , Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Rwmania . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .