Anne Hathaway
|
---|
|
Ganwyd
| Anne Jacqueline Hathaway
12 Tachwedd 1982
Brooklyn
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| actor ffilm,
canwr
, actor teledu, actor llwyfan, actor llais
|
---|
Adnabyddus am
| The Princess Diaries
,
The Devil Wears Prada
,
The Dark Knight Rises
,
Rio (ffilm 2011)
, Rio 2
|
---|
Math o lais
| soprano
|
---|
Taldra
| 173 centimetr
|
---|
Plaid Wleidyddol
| plaid Ddemocrataidd
|
---|
Tad
| Gerald T. Hathaway
|
---|
Mam
| Kate McCauley Hathaway
|
---|
Priod
| Adam Shulman
|
---|
Gwobr/au
| Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hasty Pudding Woman of the Year
|
---|
llofnod
|
---|
|
Mae
Anne Jacqueline Hathaway
(ganed
12 Tachwedd
1982
) yn actores Americanaidd. Cafodd ei swydd actio gyntaf ym
1999
yn y gyfres deledu
Get Real
, ond cafodd ei gyrfa fel actores ei ystyried o ddifrif pan gafodd ei rol flaenllaw gyntaf yng
nghomedi
deuluol
Disney
,
The Princess Diaries
lle gweithiodd gyda
Julie Andrews
.
Parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau teuluol dros y tair blynedd nesaf, gan chwarae'r prif ran yn
Ella Enchanted
a
The Princess Diaries 2: Royal Engagement
yn
2004
. Yn ddiweddarach, dechreuodd Hathaway actio mewn ffilmiau mwy beiddgar fel
Havoc
a
Brokeback Mountain
. Actiodd hefyd yn
The Devil Wears Prada
, gyda
Meryl Streep
;
Becoming Jane
, lle portreadodd
Jane Austen
, a
Get Smart
gyda
Steve Carell
. Yn
2008
derbyniodd ganmoliaeth eang am ei rol yn y ffilm
Rachel Getting Married
. Derbyniodd amrywiaeth o wobrau am y rol, gan gynnwys enwebiad am
Wobr yr Academi am yr Actores Orau
.
Mae ei dull o actio wedi cael ei gymharu i ddull
Judy Garland
ac
Audrey Hepburn
[1]
ac mae'n cyfeirio at Hepburn fel un o'i hoff actoresau a Meryl Streep fel ei heilun. Enwodd y cylchgrawn
People
Hathaway fel un o brif actorion newydd 2001 ac yn
2006
, cafodd ei henwi fel un o 50 Person Mwyaf Prydferth y byd.
[2]