Adran Wladol yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Adran Wladol yr Unol Daleithiau

Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau ( Saesneg : United States Department of State ) yn adran weithredol ffederal yr Unol Daleithiau sy'n cynghori'r Arlywydd ac sy'n arwain y wlad ar faterion polisi tramor.

Arweinir yr Adran gan yr Ysgrifennydd Gwladol a enwebir gan yr Arlywydd ac a gadarnheir gan y Senedd . Mae hefyd yn aelod o'r Cabinet . Yr Ysgrifennydd Gwladol presennol yw Mike Pompeo , yn ei swydd ers 26 Ebrill 2018.