Yr wyddor Arabeg

Oddi ar Wicipedia

Mae'r ieithoedd ganlynol yn defnyddio'r wyddor Arabeg, neu wyddorau sy'n seiliedig arni: Arabeg , Cashmireg , Cwrdeg , Perseg , Sindhi , Urdu . Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Rufeinig yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.

Mae Arabeg yn ei ysgrifennu o'r dde i'r chwith. Does dim priflythrennau ond mae'r llythrennau yn cael eu hysgrifennu yn wahanol ar ganol ac ar ddiwedd gair er mwyn edrych yn daclus, e.e. mae'r llythyren olaf yn dueddol i orffen gyda chynffon.

Y llythrennau [ golygu | golygu cod ]

Llythyren Enw Cynaniad Cymraeg Trawsgrifiad Rhufeinig
unigol gyntaf ganol olaf
? ? ? ? ?
hamza ' (atalnod glotal fel "Y" byr ) '
? ? ? 'alif a a / e
? ? ? ? ba' b b
? ? ? ? ta' t t
? ? ? ? tha th th
? ? ? ? jim j j / dj / g
? ? ? ? ha' h (pwysleisiol fel wrth anadlu ar eich sbectol ) ?
? ? ? ? kha' ch kh
? ? ? dal d d
? ? ? dhal dd dh
? ? ? ra' r r
? ? ? zay z z
? ? ? ? sin s s
? ? ? ? shin sh ch / sh
? ? ? ? Sad s (pwysleisiol) ?
? ? ? ? Dad d (pwysleisiol) ?
? ? ? ? Ta' t (pwysleisiol) ?
? ? ? ? Za' dd (pwysleisiol) ?
? ? ? ? Aayn a ("A" gyddfol fel wrth ddangos eich llwnc i'r meddyg ) A
? ? ? ? ghayn gh ("R" gyddfol Ffrangeg neu fel ambell frodor Gwynedd ) gh
? ? ? ? fa' ff / ph f / ph
? ? ? ? qaf g ("C" gyddfol) q
? ? ? ? kaf c k
? ? ? ? lam l l
? ? ? ? mim m m
? ? ? ? nun n n
? ? ? ? ha' h h
? ? ? waw w ou / w
? ? ? ? ya' i i / y

Llythrennau eraill:

unigol cyntaf canol olaf Enw Cynaniad Cymraeg Trawsgrifiad Rhufeinig
? ? ? ta' marbuta a / at a / at
? ? ? 'alif maq'ura a a / e
? ? ? lam 'alif (L+A) la la / le

Nodiadau:

  • Mae 28 llythyren yn yr wyddor. Maen nhw wedi eu gwneud o 18 o ffurfiau. Wrth osod dotiau, mae 2 ffurf yn cael eu defnyddio i wneud 3 llythyren yr un, ac mae 6 ffurf yn cael eu defnyddio i wneud 2 lythyren yr un.
  • Fe fydd rhai yn cynanu ? fel "a" a rhai fel "e". (Mae hwn yn debyg iawn i frodor Canolbarth Cymru sy'n dweud "ceth fech" yn hytrach na "cath fach" .)
  • Mae geiriau benywaidd yn gorffen gyda ? , cynaniad "a" (neu "at" os oes gair arall yn dilyn)
  • Gellir ysgrifennu ? ar ddiwedd gair fel ? neu fel ?
  • Mae L + A yn cael ei ysgrifennu fel ? yn hytrach na ?? , hynny yw; fe fyddyn nhw'n croesi'u gilydd.

Trefn yr wyddor [ golygu | golygu cod ]

Mae'r Abjad (wyddor cytseiniau, lluosog; abjadi ) yn y drefn ganlynol fel arfer. Cofiwch ddarllen o'r dde i'r chwith;-

? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ?
gh ? ? dh kh th t sh r q ? f A s n m l k i ? ? z w h d j b a

Gellir ymadrodd yr abjad yn y ffordd ganlynol;-

"aabjad haouaz ?u?ai kalaman saAfa? qarashat thakhadh ?a?agh".

Neu yn Gymraeg;-

"abjad hawaz HwTai calaman saffaS garashat thachadd DaDDagh".

Ffordd arall o ymadrodd yr abjad yw;-

"abujadin hawazin ?u?ia kalman saAfa? qurishat thakhudh ?a?ugh".

Mae trefn ychydig bach yn wahanol yn cael ei ddefnyddio yn y Maghreb , sef;-

? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ? ?
sh gh ? dh kh th t s r q ? f A ? n m l k i ? ? z w h d j b a

Fe fydd hwn yn cael ei adrodd fel;-

"aabujadin hawazin ?u?ia kalman ?aAfa? qurisat thakhudh ?aghush".

Aravrit [ golygu | golygu cod ]

Yn 2018 dyfeisiodd y dylunydd graffeg Iddewig o Haifa , Liron Lavi Turkenich, 'wyddor' hybrid o'r enw Aravrit sy'n cyfuno gwaelod llythrennau'r wyddor Hebraeg gyda top llythennau'r wyddor Arabeg fel bod modd i berson sy'n darllen yr iaith wyddor neu'r llall ddarllen y gair. [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]