Roedd y
Ras Ofod
yn gystadleuaeth yn yr 20g rhwng y ddau wrthwynebydd y
Rhyfel Oer
, sef yr
Undeb Sofietaidd
a'r
Unol Daleithiau
, i sicrhau'r cyntaf i gallu
Teithio'r gofod
.
Cafodd ei wreiddiau yn y ras arfau niwclear rhwng y ddwy wlad a ddigwyddodd yn dilyn yr
Ail Ryfel Byd
. Ystyriwyd bod y fantais dechnolegol sy'n ofynnol i gyflawni'r cerrig milltir yma yn gyflym yn angenrheidiol ar gyfer
diogelwch gwladol
, ac roedd yn gymysg a symbolaeth ac ideoleg yr oes. Arweiniodd y Ras Ofod at ymdrechion arloesol i lansio
lloerennau artiffisial
,
chwiliedydd gofod
i'r
Lleuad
,
Gwener
, a'r
blaned Mawrth
, a teithio gofod dynol.
[1]
Dechreuodd y gystadleuaeth o ddifrif ar 2 Awst, 1955, pan ymatebodd yr Undeb Sofietaidd i gyhoeddiad yr Unol Daleithiau bedwar diwrnod ynghynt o fwriad i lansio lloerennau artiffisial. Cyflawnodd yr Undeb Sofietaidd y lansiad llwyddiannus cyntaf ar Hydref 4, 1957 efo
Sputnik 1
, Yr Undeb Sofietaidd oedd y cyntaf hefyd i anfon person,
Yuri Gagarin
, i'r gofod ar Ebrill 12, 1961. Hefyd anfonodd yr Undeb Sofietaidd y fenyw gyntaf,
Valentina Tereshkova
, i'r gofod ar 16 Mehefin, 1963. Yn ol ffynonellau Rwseg, arweiniodd y cyflawniadau hyn at y casgliad bod gan yr Undeb Sofietaidd fantais yn technoleg gofod yn gynnar yn y 1960au.
[2]
Yn ol ffynonellau'r UD, fe gyrhaeddodd y "ras" uchafbwynt ar Gorffennaf 20, 1969, pan glaniodd yr Unol Daleithiau y bodau dynol cyntaf ar y Lleuad gyda
Apollo 11
. Bydd y rhan fwyaf o ffynonellau'r UD yn tynnu sylw at laniad lleuad Apollo 11 fel cyflawniad unigol sy'n llawer mwy pwysig nag unrhyw gyfuniad o gyflawniadau Sofietaidd.
[3]
[4]
[5]
[6]