Pencadlys Gweinyddiaeth Amddiffyn yr
Unol Daleithiau
(
Saesneg
:
United States Department of Defense
) yw'r
Pentagon
. Fe'i lleolir yn
Arlington County
,
Virginia
, ar gyrion
Washington, D.C.
Mae ganddo 600,000 m
2
o arwynebedd llawr. Cychwynnwyd adeiladu'r Pentagon ar 11 Medi 1941 ac fe'i gorffennwyd ym 1943; yr Americanwr George Bergstrom (1876?1955) oedd y pensaer. 60 mlynedd yn union wedi i'r adeiladu cychwyn, drylliwyd yr awyren
American Airlines Flight 77
ar ochr orllewinol yr adeilad mewn un o
ymosodiadau 11 Medi 2001
.