Firws Zika
|
|
Llun drwy
feicrosgop
electron micrograff o'r firws Zika; mae gan bob un ddiametr o 40
nm
gydag amlen feddal a chraidd mewnol caled. (Ffynhonnell: CDC).
[1]
|
|
Model 'capsid' o'r Firws Zika, a liwiwyd gan gadwynau, PDB.
[2]
|
Dosbarthiad firysau
|
Gr?p:
|
Gr?p IV
(
(+)ssRNA
)
|
Teulu:
|
Flaviviridae
|
Genws:
|
Flavivirus
|
Rhywogaeth:
|
Y Firws Zika
|
Aelod o
deulu'r
Flaviviridae
ydyw'r
firws Zika
(neu
ZIKV
) a'r
genws
Flavivirus
,
[3]
[4]
sy'n cael ei gario liw dydd gan y
mosgito
Aedes aegypti
.
[4]
Daw'r enw
Zika
o'r Fforest Zika yn
Wganda
lle gwelwyd y
firws
yn 1947 am y tro cyntaf.
[5]
O fewn
bodau dynol
, mae'r symtom cyntaf yn ddigon diddim didda ac ysgafn a gelwir ef yn 'dwymyn Zika', sydd wedi'i hastudio o fewn rhuban o dir o
Affrica
i
Asia
ers yr
1950au
. Am ryw reswm, yn 2014, ymledodd y firws tua'r dwyrain ac ar draws y
Cefnfor Tawel
ac i
Ynys y Pasg
. Yn 2015 ymledodd ymhellach - i ganol America,
y Caribi
a
De America
, lle cafwyd
epidemig y firws Zika
.
[6]
Mae'r firws Zika yn perthyn yn eithaf agos i
gwibgymalwst
(neu 'deng'),
y dwymyn felen
,
Japanese encephalitis
a firws Gorllewin y Nil.
[7]
Mae'r dwymyn a geir yn ddigon tebyg i gwibgymalwst,
[7]
a chaiff ei thrin drwy orffwyso'r claf,
[8]
ond nid oes unrhyw
feddyginiaeth
a all ei gwella. Ceir cysylltiad rhwng y dwymyn Zika a
Microceffali
mewn babanod newydd eu geni, pan fo'r fam wedi'u heintio a throsglwyddir y firws i'r plentyn yn y groth.
[9]
[10]
.
Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd Canolfan Atal Heintiau Unol Daleithiau'r America (CDC) ganllawiau manwl yngl?n a theithio i'r gwledydd hynny lle mae'r firws yn rhemp, gan gynnwys cymryd gofal cyn dechrau'r daith, canllawiau i ferched beichiog gydag awgrym y dylent ganslo'r daith.
[11]
[12]
Dilynwyd y CDC gan nifer o gyrff tebyg mewn gwledydd eraill.
[13]
[14]
twymyn Zika
|
---|
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol
|
---|
Arbenigedd
| Heintiau
Zoonosis
|
---|
ICD
-
ICD-10
| A
92.8
|
---|
Yn Ionawr 2016 hefyd, cyhoeddodd
Cyfundrefn Iechyd y Byd
ei bod yn bur debygol y gwelir y firws yn ymledu drwy'r rhan fwyaf o'r Americas.
[15]
Trosglwyddir y firws Zika gan
fosgito
yn y genws Aedes, fel yr A. aegypti sy'n weithgar yn ystod y dydd a'r mosgito A. africanus, A. apicoargenteus, A. furcifer, A. hensilli, A. luteocephalus, a'r A. vitattus sy'n byw mewn coedwigoedd. Dengys yr astudiaeth ddiweddaraf (2016) fod cyfnod deor i'r mosgitos hyn oddeutu 10 diwrnod. Wedi i'r pryfyn gael mynediad i'r corff dynol, drwy
gyfathrach rhywiol
, mae'n turio i mewn i gorff merch, ac i mewn i'w
brych
ac yn ymosod ar y
ffetws
cyn ei eni.
- ↑
Goldsmith, Cynthia (18 Mawrth 2005).
"Zika Virus"
.
Centers for Disease Control and Prevention
. Cyrchwyd
4 Mawrth
2016
.
- ↑
Sirohi, D.; Chen, Z.; Sun, L. et al. (31 Mawrth 2016).
"The 3.8 A resolution cryo-EM structure of Zika virus"
.
Science
.
doi
:
10.1126/science.aaf5316
.
ISSN
0036-8075
.
http://science.sciencemag.org/content/early/2016/04/01/science.aaf5316
.
- ↑
"Etymologia: Zika Virus"
.
Emerging Infectious Diseases
20
(6): 1090. June 2014.
doi
:
10.3201/eid2006.ET2006
.
PMC
4036762
.
PMID
24983096
.
http://wwwnc.cdc.gov/eid/article/20/6/et-2006_article
. Adalwyd 2016-05-01
.
- ↑
4.0
4.1
Malone, Robert W.; Homan, Jane; Callahan, Michael V. et al. (2 Mawrth 2016).
"Zika Virus: Medical Countermeasure Development Challenges"
.
PLOS Neglected Tropical Diseases
10
(3): e0004530.
doi
:
10.1371/journal.pntd.0004530
.
ISSN
1935-2735
.
http://journals.plos.org/plosntds/article?id=10.1371/journal.pntd.0004530
.
- ↑
Sikka, Veronica; Chattu, Vijay Kumar; Popli, Raaj K. et al. (11 Chwefror 2016).
"The emergence of zika virus as a global health security threat: A review and a consensus statement of the INDUSEM Joint working Group (JWG)"
.
Journal of Global Infectious Diseases
8
(1): 3?15.
doi
:
10.4103/0974-777X.176140
.
ISSN
0974-8245
.
http://www.jgid.org/text.asp?2016/8/1/3/176140
.
- ↑
McKenna, Maryn (13 Ionawr 2016).
"Zika Virus: A New Threat and a New Kind of Pandemic"
.
Germination
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2016
.
- ↑
7.0
7.1
"Zika virus infection"
.
ecdc.europa.eu
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2017-06-22
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2016
.
- ↑
"Symptoms, Diagnosis, & Treatment"
.
Zika Virus
. DVBD, NCEZID, Centers for Disease Control and Prevention.
- ↑
Oliveira Melo, A. S.; Malinger, G.; Ximenes, R.; Szejnfeld, P. O.; Alves Sampaio, S.; Bispo de Filippis, A. M. (1 Ionawr 2016).
"Zika virus intrauterine infection causes fetal brain abnormality and microcephaly: tip of the iceberg?"
(yn en).
Ultrasound in Obstetrics & Gynecology
47
(1): 6?7.
doi
:
10.1002/uog.15831
.
ISSN
1469-0705
.
http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/uog.15831/abstract
.
- ↑
"Epidemiological update: Outbreaks of Zika virus and complications potentially linked to the Zika virus infection"
. European Centre for Disease Prevention and Control. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2016-10-07
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2016
.
- ↑
"Zika Virus in the Caribbean"
.
Travelers' Health: Travel Notices
. Centers for Disease Control and Prevention. 15 Ionawr 2016.
- ↑
Petersen, Emily E.; Staples, J. Erin; Meaney-Delman, Dana; Fischer, Marc; Ellington, Sascha R.; Callaghan, William M.; Jamieson, Denise J. (2016).
"Interim Guidelines for Pregnant Women During a Zika Virus Outbreak ? United States, 2016"
.
Morbidity and Mortality Weekly Report
65
(2): 30?33.
doi
:
10.15585/mmwr.mm6502e1
.
PMID
26796813
.
http://www.cdc.gov/mmwr/volumes/65/wr/mm6502e1.htm
.
- ↑
"Zika virus: Advice for those planning to travel to outbreak areas"
. ITV News. 22 Ionawr 2016
. Cyrchwyd
24 Ionawr
2016
.
- ↑
"Pregnant Irish women warned over Zika virus in central and South America"
.
RTE
. 22 Ionawr 2016
. Cyrchwyd
23 Ionawr
2016
.
- ↑
"WHO sees Zika outbreak spreading through the Americas"
.
Reuters
. 25 Ionawr 2016
. Cyrchwyd
25 Ionawr
2016
.