Uchel ddugiaeth
neu
dywysogaeth
yn ardal
Rus'
yn
yr Oesoedd Canol Diweddar
oedd
Uchel Ddugiaeth Moscfa
,
[1]
[2]
Mysgofi
,
Rus' Mysgofi
,
[3]
[4]
[5]
neu
Uchel Dywysogaeth Moscfa
[6]
[7]
(
Rwsieg
:
Великое Княжество Московское
,
Velikoye Knyazhestvo Moskovskoye
) a fu'n rhagflaenydd i wlad
Rwsia
. Teyrnaswyd drosti gan frenhinlin y Rurik, a fuont yn rheoli Rus' ers sefydlu
Novgorod
yn 862.
Sefydlwyd yr Uchel Ddugiaeth ym 1263 pan penodwyd Daniel, mab y tywysog Rurik
Alexander Nevsky
, yn Uchel Dywysog
Moscfa
, a oedd yn
wladwriaeth gaeth
i'r
Ymerodraeth Fongolaidd
("Iau'r Tatar"). Erbyn y 1320au, ymgorfforwyd Uchel Ddugiaeth Vladimir-Suzdal yn rhan o Fysgofi. Cyfeddiannwyd
Gweriniaeth Novgorod
ym 1478 a gorchfygwyd Uchel Ddugiaeth Tver ym 1485. Parhaodd Mysgofi yn gaeth i'r
Llu Euraid
, y chaniaeth a olynai cwymp yr Ymerodraeth Fongolaidd yn Nwyrain Ewrop, Gorllewin Siberia a Chanolbarth Asia, hyd at 1480, er bu gwrthryfeloedd ac ymgyrchoedd milwrol yn fynych yn erbyn y Mongolwyr, er enghraifft buddugoliaeth Dmitri Donskoi ym Mrwydr Kulikovo (1380).
[8]
Dan Iau'r Tatar, caniatawyd Mysgofiaid, Suzdaliaid, a thrigolion eraill Rus' gan amlaf i gadw at eu traddodiadau
Slafaidd
,
paganaidd
, ac
Uniongred
. Atgyfnerthwyd y wladwriaeth yn ystod teyrnasiad Ifan III (1462?1505), a goronodd ei hun yn Uchel Dywysog Holl Rus' ym 1502. Arweiniodd sawl ymgyrch yn erbyn
Uchel Ddugiaeth Lithwania
ac erbyn 1503 llwyddodd i dyfu tiriogaeth ei deyrnas deirgwaith. Trwy ei briodas i Sophia Palaiologina, merch
Cystennin XI Palaiologos
, yr olaf o'r
ymerodron Bysantaidd
, hawliodd Ifan III ei deyrnas yn olynydd i'r
Ymerodraeth Rufeinig
, a rhoddai'r enw "Y Drydedd Rufain" ar Foscfa. Ymfudodd nifer o Fysantiaid i'r Uchel Ddugiaeth, gan gryfhau hunaniaeth grefyddol a diwylliannol y Mysgofiaid. Concrwyd
Tywysogaeth Smolensk
gan olynydd Ifan, Vasili III, oddi ar Lithwania ym 1512, gan ymestyn ffiniau Mysgofi hyd at lannau
Afon Dniepr
. Ar ei hanterth bu Uchel Ddugiaeth Moscfa yn cynnwys y rhan helaethaf o ogledd a chanolbarth
Rwsia Ewropeaidd
, a rhywfaint o diriogaeth a leolir heddiw yn
y Ffindir
,
Belarws
, a'r
Wcrain
. Daeth yr Uchel Ddugiaeth i ben ym 1547 yn sgil coroni mab Vasili,
Ifan IV
yn Tsar Rwsia, ac felly fe'i olynwyd gan
Tsaraeth Rwsia
.
- ↑
A Short History of the USSR
(yn Saesneg). Progress Publishers. 1965.
- ↑
Florinsky, Michael T. (1965).
Russia: a History and an Interpretation
(yn Saesneg).
- ↑
Dewey, Horace W. (1987). "Political Poruka in Muscovite Rus'".
The Russian Review
46
(2): 117?133.
doi
:
10.2307/130622
.
ISSN
0036-0341
.
JSTOR
130622
.
- ↑
Isham, Heyward; Pipes, Richard (2016-09-16).
Remaking Russia: Voices from within: Voices from within
(yn Saesneg). Routledge.
ISBN
978-1-315-48307-8
.
- ↑
"Московская Русь ? Arzamas"
.
Arzamas
(yn Rwseg)
. Cyrchwyd
2020-05-12
.
- ↑
"Moscow, Grand Principality of".
Encyclopædia Britannica
. Chicago: Encyclopædia Britannica. 2012.
- ↑
Perrie, Maureen, gol. (2006).
The Cambridge History of Russia
.
1
. Cambridge University Press. t. 751.
ISBN
978-0-521-81227-6
.
- ↑
Davies, B.
Warfare, State and Society on the Black Sea Steppe, 1500?1700
. Routledge, 2014, p. 5