Cerbyd neu res o gerbydau sy'n teithio ar
reilffordd
yw
tren
. Fe'i defnyddir i gludo teithwyr neu nwyddau o un man i fan arall. Yn dechnegol mae'r term yn cyfeirio at res o gerbydau, ond fe'i defnyddir yn anffurfiol i ddisgrifio cerbydau unigol, yn arbennig locomotifau. Hen derm hanesyddol am dren oedd
cerbydres
.
Ceir mathau gwahanol o dren ar gyfer gwahanol reilffyrdd a phwrpasau. Gall tren gynnwys
injan
locomotif
yn tynnu cerbydau di-b?er, neu nifer o gerbydau aml-uned yn symud o dan eu p?er eu hunain. Defnyddir trenau aml-uned fel rheol ar gyfer cludo teithwyr, tra gall locomotif dynnu cerbydau nwyddau, cerbydau teithwyr, neu gymysgedd.
Mae sawl dull o symud tren. Ar y rheilffyrdd cynharaf gwthiwyd neu tynnwyd cerbydau gan ddynion neu
dda byw
(megis
ceffylau
), ond wedi dechrau'r
Chwyldro Diwydiannol
defnyddiwyd
injans stem
yn gyffredin. Heddiw fe ddefnyddir injans
disel
neu
drydan
ran amlaf.
Mae trenau yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall -
car
,
awyren
neu
long
. Mae tren yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu a thrafnidiaeth ffordd. Y prif reswm dros hyn yw bod llai o
ffrithiant
rhwng olwynion a chledrau o gymharu a'r hyn a geir ar ffordd. Yn ogystal, mae arwynebedd blaen tren yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r
gwrthiant aer
. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth tren
ol troed ecolegol
llai, ac yn cyfrannu llai at
newid hinsawdd
, o gymharu a thrafnidiaeth ffordd.