Torquato Tasso
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ad/Ritratto_di_Torquato_Tasso.jpg/220px-Ritratto_di_Torquato_Tasso.jpg) |
Ganwyd
| 11 Mawrth 1544
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Sorrento
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 25 Ebrill 1595, 25 Mai 1595
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Rhufain
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dinasyddiaeth
|
Yr Eidal
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| bardd
,
ysgrifennwr
,
dramodydd
, rhyddieithwr
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Arddull
| barddoniaeth naratif, dialog,
drama
, poem, traethawd, ode, canzone, madrigal,
soned
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Mudiad
| Dyneiddiaeth
, Darddulliaeth
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Tad
| Bernardo Tasso
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Poet's Crown
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
llofnod
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/e/ee/Signatur_Torquato_Tasso.PNG) |
Bardd
Eidaleg
yn ystod cyfnod diweddar
y Dadeni
oedd
Torquato Tasso
(
11 Mawrth
1544
?
25 Ebrill
1595
). Cyfansoddodd amryw weithiau rhagorol mewn barddoniaeth a rhyddiaith, ond yr un sydd wedi ei anfarwoli, a rhoddi iddo enw uchel ymysg prif feirdd
yr Eidal
, yw ei arwrgerdd Gristnogol alegoriaidd
La Gerusalemme liberata
.
Paentiad gan
Louis Ducis
o Torquato yng nghwmni ei chwaer Cornelia yn Sorrente (1812).
Ganwyd yn nhref
Sorrento
yn
Nheyrnas Napoli
, yn fab i'r bardd
Bernardo Tasso
a'i wraig fonheddig Porzia de' Rossi. Derbyniodd ei addysg gynnar gan yr
Iesuwyr
, ac yr oedd wedi dechrau cyfansoddi pennillion cyn bod yn saith oed. Er gofal serchog ei fam, cafwyd anffodion teuluol yn ystod ei blentyndod. Aeth Bernardo yn alltud gyda Thywysog Salerno ym 1552 a chafodd ystadau'r teulu eu hatafaelu. Aeth Torquato i Rufain at ei dad ym 1554, a gadawodd ei fam mewn
lleiandy
yn
Napoli
. Bu farw Porzia ym 1556 a bu dadl gyfreithiol dros ei hetifeddiaeth. Aeth Bernardo a'i fab i lys Dug Urbino y flwyddyn honno, a chafodd Torquato ei addysgu gyda mab y dug. Yn hwyrach teithiodd i ddinasoedd eraill a dilynodd ei efrydiau yn
Bergamo
,
Pesaro
, a
Fenis
. Proffwydai ei dad amdano y byddai yn ddyn mawr. Ym 1558 cafodd newyddion cyrch gan y Tyrciaid ar Sorrento, a dihangodd ei chwaer Cornelia o'r lladdfa yno.
Tra yn Fenis, dechreuodd Torquato gyfansoddi arwrgerdd ar fesur
ottava rima
, sef penillion o wyth llinell unarddecsill. Pwnc y gerdd oedd trechu'r
Saraseniaid
(neu'r Tyrciaid) gan y Cristnogion yn ystod
y Groesgad Gyntaf
. Yn fuan fe beidiodd a chanlyn ei gyfansoddiad, yn debyg gan iddo sylweddoli ei fod yn rhy ifanc a dibrofiad i ysgrifennu'r fath arwrgerdd hanesyddol. Trodd at ffurf y
rhamant
a'r
delyneg
. Cyfansoddai'r bryddest sifalrig
Rinaldo
(1562) a gyhoeddid pan oedd Torquato yn ddeunaw oed. Yn y gerdd ifanc hon arddangosir ei allu technegol, ond nid eto ei athrylith.
Aeth Tasso i
Brifysgol Bologna
i astudio athroniaeth, a dywedir ei fod yn hynod lwyddiannus. Wrth adael Bologna, aeth i astudio'r gyfraith yn
Padova
ym 1560 ar ddymuniad ei gyfaill Gonzaga. Yno astudiasai'r
Farddoneg
(
Aristoteles
) dan arweiniad y beirniad o ddyneiddiwr
Sperone Speroni
. Tua'r adeg hon, cychwynnodd ar ei draethawd ar bwnc y gelfyddyd farddol,
Discorsi dell'arte poetica
(1587), sy'n amlinellu ei farnau ar reolau mydryddol Aristoteles.
Paentiad gan
Felice Schiavoni
o Tasso yn darllen i Leonora (1839).
Cyflogwyd gan Luigi, Cardinal d'Este, ym 1565 a gwahoddwyd ef i lys Alfonso II, Dug Ferrara. Fe gafodd nawddogaeth Lucrezia a Leonora, chwiorydd y dug, a chyfansoddodd sawl telyneg iddynt. Fel y dywed rhai, bu mor anffodus a syrthio mewn cariad a Leonora a'r serch annychweledig hwn oedd achos ei wallgofrwydd. Mae eraill yn gwadu'r stori hon, ac yn haeru nad oes dim tystiolaeth gredadwy dros hynny.
Bu farw ei dad Bernardo ym 1569, a'r flwyddyn ganlynol ymadawodd Lucrezia o Ferrara. Aeth Tasso gyda'r Cardinal Luigi i
Baris
, ac yno cyfarfu a'r bardd Ffrengig
Pierre Ronsard
. Dychwelodd i Ferrara ym 1571, ac ymsefydlai'i hunan yn llyswr ac yn fardd toreithiog. Cyfansoddai'r
ddrama fugeiliol
L'Aminta
a berfformiwyd yn gyntaf ym 1573, a'i gyhoeddid ym 1581. A'r gwaith y tu hwnt i'r ffug-wladeiddiwch arferol yn ei ddelweddiad synhwyrus o Arcadia. Naws delynegol yn hytrach na dramataidd yw ysbrydoliaeth y ddrama. Cyflwyna cyfres o bortreadau byrion sy'n arwain at gyflawniad cariad y bugail Arminta a'i annwyl Silvia. Adlewyrcha'r ddrama brofiad hwylus Tasso yn Ferrara yn nelfryd bywyd y llys.
Y campwaith
La Gerusalemme liberata
[
golygu
|
golygu cod
]
Tra yr oedd yn Padova y darfu iddo feddwl gyntaf am gyfansoddi ei waith mawr,
La Gerusalemme liberata
, pryddest arwrol ar orchfygiad
Caersalem
gan y Cristnogion yn ystod y Groesgad Gyntaf. Clywodd ei dad ei fod yn bwriadu cyfansoddi ar y testun hwn, a bendithiai y nefoedd am fod Torquato ym meddu ar fwy o athrylith nag ef. Ailddechreuodd ar y gerdd hon tra'r oedd yn Ferrara, a chanddo mwy o brofiad yn ei grefft a'i galon.
Traddoda'r gerdd hon hanes y lluoedd Cristnogol dan arweiniad
Godefroid o Fouillon
ym misoedd terfynol y Groesgad Gyntaf, concwest Caersalem a Brwydr Ascalon. Adroddiadau hanesyddol y croesgadwyr yw sail y stori, ac yn ogystal ychwanegodd Tasso sawl golygfa ddychmygol ac yn y rhain ddangosai ei ddelweddaeth bleseryddol a thelynegol. Ymddangosa'r arwr Rinaldo mewn sawl rhan o'r gerdd: ei wrthryfel, ei gariad am y ferch o Sarasen Armida, ei edifeirwch, a'i ran yn y frwydr olaf. Ceir hefyd straeon
Tancred
a'i gariad am y Sarasen Clorinda, serch cudd y Dywysoges Erminia am Tancred, ac ymyriad y goruwchnaturiol o blaid Brenin Caersalem.
Paentiad o Tasso yn y gwallgofdy gan
Eugene Delacroix
(1839).
Wedi gorffen ei waith barddonol mawr ym 1575, anfonodd gopi ohono i gymdeithas o ddysgedigion, beirniad, a gw?r eglwysig yn Rhufain, er cael eu barn hwy arno. Oherwydd newyddwch y ffurf a'r arddull, dymunai barnau eraill ar ei waith arloesol. Gwell fuasai iddo gyhoeddi'r gan ar unwaith, heb ei gosod at drugaredd beirniaid a ymhyfrydent mewn cael cyfle i weld ei beiau cyn i'r cyhoedd ganfod ei rhagoriaethau a'i chanmol, gan y buasai raid iddynt hwythau wedi hynny ymuno i'w ganmol.
Cychwynnod adolygu'r arwrgerdd yn Ferrara y flwyddyn ganlynol. Poenwyd Tasso yn fawr gan eu beirniadaeth front, a'u sylwadau annheg. Ymatebodd yn anghyson i feirniadaeth y Rhufeinwyr: teimlai y dylsai ddysgu o farnau eraill er mwyn gwella ei waith, ond bu hefyd yn ysu i wrthod y fath awdurdod llenyddol. Datblygodd
gymhleth erledigaeth
a phrofodd cyflwr manig, o bosib
anhwylder deubegwn
yn yr iaith glinigol gyfoes. Yn raddol, syrthiodd yntau i brudd-der a orthrechodd ei reswm. Teimlai poenau direswm ac amheuon ynghylch ei grefydd, a threuliodd blynyddoedd yn dioddef pyliau treisgar. Dihangodd o Ferrara sawl gwaith, ac o'r diwedd cafodd ei garcharu yn ysbyty Santa Anna am y cyfnod 1579?86 ar orchymyn Dug Ferrara. Yn ystod ei amser yn y gwallgofdy, ysgrifennodd nifer o ymgomion ar bynciau athronyddol a moesol yn ogystal a thomenni o lythyron, ac mae llen y bardd carcharedig ymhlith rhyddiaith geinaf y 16g yn yr iaith Eidaleg. Tra'r oedd yn Sant Anna, cyhoeddid yr argraffiad cyntaf o
La Gerusalemme liberata
(1581) a rhannau o'r
Rime a prose
. Cafwyd dadl hir ymhlith y beirniaid Eidaleg dros werth a safon yr arwrgerdd, ochr yn ochr a'r gerdd sifalrig
Orlando furioso
gan
Ludovico Ariosto
. Plediodd Tasso achos ei hunan yn ei ddiffyniad,
Apologia
(1585).
Cafodd Tasso ei ryddhau o Santa Anna yng Ngorffennaf 1586, o ganlyniad i ymdrechion ei gyfaill Vincenzo Gonzaga, Tywysog Mantova. Aeth Tasso i’r llys ym
Mantova
, ac yno fe lwyddodd i ailgydio yn ei awenau. Gorffennodd ei drasiedi
Galealto
, dan y teitl
Re Torrismondo
(1587). Er ei ysbaid o ysbrydoliaeth, gwaelu a wnaeth ei gyflwr feddyliol a chafodd ail bwl o iselder a phryder. Gadawodd Mantova a chrwydrodd rhwng Rhufain a Napoli. Er ei afiechyd meddwl, yn y cyfnod hwn fe gyfansoddodd ei gerddi crefyddol
Monte oliveto
(1605) a
Le sette giornate del mondo creato
(1607).
Paentiad gan
Gabriel Maureta Aracil
o Tasso yn ymddeol i fynachdy San Onofre ar fryn Gianicolo (1864).
Ym mis Mai 1592, fe'i groesawyd yn Rhufain gan y Cardinal Cinzio Aldobrandini, nai'r
Pab Clement VIII
. Roedd y pab yn edmygydd mawr o ddoniau'r bardd, a derbyniwyd Tasso gydag arwyddion o anrhydedd uchel. Cyhoeddodd wedd newydd ar ei gampwaith,
Gerusalemme conquistata
(1593), ond fe'i hystyrir yn fethiant sy'n dangos rhagfarnau moesol a llenyddol y cyfnod. Cyfansoddodd ddwy gerdd grefyddol chwaneg,
Lagrime di Maria Vergine
a
Lagrime di Gesu Cristo
. Aeth i Napoli ym Mehefin 1594, a chyhoeddodd yno ei draethawd ar genre'r arwrgerdd,
Discorsi del poema eroico
, sy'n ceisio cyfiawnhau ei olygiad o'i gampwaith.
Dychwelodd i Rufain yn Nhachwedd 1594, a derbynai pensiwn gan y pab. Gwnaed paratoadau mawrion ar gyfer ei goroni a llawryf, megis
Petrarch
, ar y Capitol yn dywysog y beirdd. Ymaflodd afiechyd ynddo ym mis Mawrth 1595, a symudwyd i fynachdy San Onofre ar fryn Gianicolo. O'r afiechyd hwn y bu farw ychydig wythnosau'n ddiweddarach, y prynhawn cyn i'r seremoni fwriadedig ddigwydd.
Ei dderbyniad a'i ddylanwad
[
golygu
|
golygu cod
]
Er gwaethaf dirmyg gw?r Rhufain, cyfieithwyd
La Gerusalemme liberata
ar draws Ewrop a chafodd ddylanwad ar lenyddiaeth mewn sawl iaith. Bellach, ystyrir yr arwrgerdd hon yn un o brif weithiau'r Dadeni Eidalaidd. Datblygodd chwedl am y dyn ei hun o ganlyniad i'w fywyd, ei afiechyd meddwl a'i gariadon. Roedd Tasso yn destun poblogaidd i lenorion Eidaleg y 17g ac Ewrop oll yn y 18g a'r 19g. Fe'i bortreadir mewn llwyth o baentiadau'r
arlunwyr Rhamantaidd
. Yr athrylith a gamddeallwyd yw'r ddelwedd amlaf ohono. Yn y cyfnod modern, ymdrecha'r beirniaid i osod cymeriad y dyn a'i fywyd rhyfeddol yng nghyd-destun moesoldeb ansicr ei oes.
- Rinaldo
(1562)
- L'Aminta
(1573)
- La Gerusalemme liberata
(1581)