Toma? Masaryk
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cc/MasarykFotoPrvniPoselstviTGM.jpg/220px-MasarykFotoPrvniPoselstviTGM.jpg) |
Ffugenw
| Thomas George Marsden
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Ganwyd
| Toma? Jan Masaryk
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) 7 Mawrth 1850
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Hodonin
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bedyddiwyd
| 8 Mawrth 1850
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Bu farw
| 14 Medi 1937
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) Lany
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Man preswyl
| house of Toma? Garrigue Masaryk, Mut?nice, ?ej?,
Brno
,
Fienna
,
Leipzig
,
Fienna
,
Prag
,
Llundain
, Prague Castle, Lany Castle
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, athronydd,
ysgrifennwr
, academydd,
athro
, golygydd cyfrannog
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Swydd
| President of Czechoslovakia
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Tad
| Jozef Maszarik
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Mam
| Terezie Masarykova
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Priod
| Charlotte Garrigue
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwobr/au
| Urdd Seren Karađorđe, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Croes Urdd Siarl III, Urdd yr Eliffant,
Urdd yr Eryr Gwyn
, Uwch Groes Urdd y Gwaredwr, Urdd y Tair Seren, Dosbarth 1af, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Uwch Groes Urdd Cleddyf Sant'Iago, 1st Class of the Order of the Cross of the Eagle, honorary doctor of Protestant Theological Faculty ? Charles University, Honorary citizenship of Strakonice, Dinasyddiaeth anrhydedd T?ebi?, Honorary citizenship of Moravske Bud?jovice, Honorary citizenship of Strakonice, Honorary citizenship of Brno, honorary citizen of Kladno, Honorary citizenship of Nove M?sto na Morav?, Honorary citizenship of Kop?ivnice, honorary citizen of Nove M?sto nad Metuji
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
llofnod
|
---|
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/00/T._G._Masaryk_Signature.svg/150px-T._G._Masaryk_Signature.svg.png) |
Gwleidydd ac athronydd
Tsiecoslofacaidd
oedd
Toma? Garrigue Masaryk
(
7 Mawrth
1850
?
14 Medi
1937
) a wasanaethodd yn arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia o 1918 i 1935.
Ganed ef yn Hodonin,
Morafia
, yn
Ymerodraeth Awstria
, a chafodd ei fagu mewn teulu dosbarth-gweithiol. Astudiodd athroniaeth, hanes a chymdeithaseg ym
Mhrifysgol Fienna
. Daeth i'r amlwg fel academydd uchel ei barch ac ysgolhaig dylanwadol ym meysydd cymdeithaseg, moeseg, ac athroniaeth y gyfraith. Er iddo ymdrin yn feirniadol a
chenedlaetholdeb
, dadleuodd dros barchu hawliau'r lleiafrifoedd cenedlaethol yn
Awstria-Hwngari
, yn enwedig y Tsieciaid a'r
Slofaciaid
. Yn ei ysgrifau, pwysleisiai bwysigrwydd democratiaeth ac iawnderau dynol.
Yn ystod
y Rhyfel Byd Cyntaf
(1914?18), pan oedd Awstria-Hwngari yn un o'r Pwerau Canolog, ymgysylltodd Masaryk a'r Cynghreiriaid i hyrwyddo'r ddadl dros wladwriaeth annibynnol i'r Tsieciaid a'r Slofaciaid. Derbyniodd gefnogaeth oddi ar Ffrainc, yr Unol Daleithiau, a'r Deyrnas Unedig. Wrth i ddiwedd y rhyfel nesu, ac Awstria-Hwngari chwalu, datganwyd annibyniaeth Tsiecoslofacia ar 28 Hydref 1918 dan arweinyddiaeth Masaryk a'i lywodraeth dros dro. Ar 14 Tachwedd fe'i etholwyd yn arlywydd cyntaf y wlad gan y Cynulliad Cenedlaethol ym
Mhrag
.
Byddai Masaryk yn Arlywydd Tsiecoslofacia am y rhan fwyaf o'r
cyfnod rhwng y rhyfeloedd
, a nodweddir ei arlywyddiaeth gan ymdrechion i fantoli buddiannau'r amryw grwpiau ethnig yn y wlad. Ymddiswyddodd Masaryk o'r arlywyddiaeth ym 1935, a dwy flynedd yn ddiweddarach bu farw yn Lany, Tsiecoslofacia, yn 87 oed.
Bywyd cynnar ac addysg (1850?78)
[
golygu
|
golygu cod
]
Ganed Toma? Garrigue Masaryk ar 7 Mawrth 1850 yn nhref Hodonin (Goding yn
Almaeneg
) yn neheubarth
Morafia
, Ymerodraeth Awstria (Awstria-Hwngari wedi 1867), a leolir heddiw yn
y Weriniaeth Tsiec
nid nepell oddi wrth y ffin a
Slofacia
. Gyrrwr
coetsh
o dras Slofacaidd oedd ei dad, a morwyn Forafaidd oedd ei fam o deulu Almaeneg. Yn ei ieuenctid cafodd ei hyfforddi'n athro ac aeth yn brentis i
saer glo
, ond cychwynnodd ar yrfa academaidd wedi iddo gael ei dderbyn i'r coleg Almaeneg yn
Brno
ym 1865. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Fienna, prif
Hochschule
yr ymerodraeth, ym 1876. Astudiodd am un flwyddyn ym
Mhrifysgol Leipzig
,
Ymerodraeth yr Almaen
, ac yno cyfarfu a Charlotte Garrigue, myfyrwraig cerddoriaeth o Americanes, a phriodasant ym 1878.
[1]
Gyrfa academaidd a'i ysgolheictod a meddwl (1879?)
[
golygu
|
golygu cod
]
Dychwelodd Masaryk i
Fienna
a fe'i penodwyd yn ddarlithydd athroniaeth gan y brifysgol ym 1879. Fe'i penodwyd yn athro athroniaeth ym
Mhrifysgol Prag
ym 1882.
Cyhoeddodd Masaryk astudiaethau o'r Diwygiad ym
Mohemia
yn yr 16g a'r adfywiad Tsiecaidd yn nechrau'r 19g, gan gyfrannu'n sylweddol at ddealltwriaeth y Tsieciaid o'u hetifeddiaeth grefyddol. Ysgrifennodd draethawd ar waith yr hanesydd
Franti?ek Palacky
, gan gynnig dadansoddiad craff o gysylltiadau rhwng y Tsieciaid a llywodraeth Awstria. Ymchwiliodd hefyd i
lenyddiaeth Tsieceg
, ac yn ei gyfnodolyn llenyddol cyhoeddodd ei dystiolaeth bod dwy arwrgerdd Tsiecaidd a briodolir i'r Oesoedd Canol yn wir wedi eu ffugio yn nechrau'r 19g gan fardd gwladgarol.
O ran ei athroniaeth a chrefydd, meddyliwr neo-
Kantaidd
oedd Masaryk, a ddylanwadwyd yn gryf arno hefyd gan foeseg y
Piwritaniaid
Seisnig a dysgeidiaeth yr
Husiaid
.
Gyrfa wleidyddol gynnar (1889?1914)
[
golygu
|
golygu cod
]
Cychwynnodd Masaryk ar ei yrfa wleidyddol ym 1889, pan penderfynodd drawsnewid ei gyfnodolyn llenyddol yn gylchgrawn gwleidyddol. Ar y cychwyn, cefnogodd Masaryk fudiad
Awstro-Slafiaeth
, a luniai ffederasiwn i sicrhau cynrychiolaeth i'r bobloedd Slafig yn Awstria-Hwngari (y Tsieciaid, Slofaciaid,
Pwyliaid
,
Croatiaid
, a
Slofeniaid
). O ganlyniad i gryfder ei daliadau democrataidd, gwyrai Masaryk oddi ar geidwadaeth yr Hen Blaid Tsiecaidd ac ymaelododd a'r Blaid Tsiecaidd Ifanc. Fe'i etholwyd i'r Reichsrat ym 1891, ond ymddiswyddodd ym 1893 yn sgil anghytundeb a'i blaid. Trodd ei sylw at sefyllfa'r Slofaciaid yng ngogledd
Hwngari
, gan ladd ar dra-arglwyddiaeth y
Magyariaid
a
phan-Slafiaeth
y gwleidyddion Slofacaidd ill dau. Daeth felly yn boblogaidd ymhlith yr ymgyrchwyr blaengar ifainc a fyddai'n cefnogi uno'r Tsieciaid a'r Slofaciaid dan un wladwriaeth annibynnol.
Ym Mawrth 1900 sefydlodd Masaryk blaid ei hun, y Blaid Realaidd, a chafodd ei ethol i'r Reichsrat unwaith eto. Yn y blynyddoedd cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, gwrthwynebodd y gynghrair filwrol rhwng Awstria-Hwngari a'r Almaen, a dadleuodd yn chwerw yn erbyn imperialaeth yn
y Balcanau
.
Yr ymgyrch am annibyniaeth (1914?18)
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn sgil dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Masaryk i
Orllewin Ewrop
i ennill cefnogaeth i'w ymgyrch yn erbyn rhan Awstria-Hwngari yn y rhyfel a thros annibyniaeth i'r Tsieciaid a'r Slofaciaid. Cydnabuwyd Masaryk yn gynrychiolydd dros fudiad annibyniaeth y Tsieciaid, ac elwodd ar gysylltiadau ei gyfeillion yn Ffrainc a Phrydain i gyfathrebu ag arweinwyr y Cynghreiriaid. Teithiodd i'r Unol Daleithiau ym 1917 i drafod ei achos a'r Arlywydd
Woodrow Wilson
a'r Ysgrifennydd Tramor Robert Lansing. Ym Mai 1918, datganodd Lansing gefnogaeth yr Unol Daleithiau i annibyniaeth Tsiecoslofacia, a chadarnhawyd hynny gan
y Pedwar Pwynt ar Ddeg
.
Cydnabuwyd Tsiecoslofacia yn un o'r Cynghreiriaid ar 3 Mehefin 1918, a lluniwyd ffiniau'r wlad i fod yn unol a syniadau Masaryk. Wrth i ddiwedd y rhyfel nesu, ac Awstria-Hwngari chwalu, datganwyd annibyniaeth Tsiecoslofacia ar 28 Hydref 1918 dan arweinyddiaeth Masaryk a'i lywodraeth dros dro.
Byddai Masaryk yn Arlywydd Tsiecoslofacia am y rhan fwyaf o'r
cyfnod rhwng y rhyfeloedd
, a nodweddir ei arlywyddiaeth gan ymdrechion i fantoli buddiannau'r amryw grwpiau ethnig yn y wlad.
Ar 14 Tachwedd 1918 etholwyd Masaryk yn arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia gan y Cynulliad Cenedlaethol ym Mhrag. Fe'i ail-etholwyd ym 1920, 1927, a 1934.
Ymddeolodd Masaryk o'r arlywyddiaeth ym 1935. Bu farw Toma? Masaryk yn Lany, Tsiecoslofacia, ar 14 Medi 1937 yn 87 oed.