한국   대만   중국   일본 
Tomos o Acwin - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Tomos o Acwin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Thomas Aquinas )
Tomos o Acwin
Ganwyd 1225  Edit this on Wikidata
Roccasecca  Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Mawrth 1274  Edit this on Wikidata
Abaty Fossanova  Edit this on Wikidata
Man preswyl Aquino  Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Paris
  • Prifysgol Napoli Federico II  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth diwinydd, athro cadeiriol , offeiriad Catholig, athronydd, ysgrifennwr , diwinydd Catholig, ffrier  Edit this on Wikidata
Swydd athro cadeiriol   Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Paris  Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Summa Theologica, Summa contra Gentiles, De regimine principum, Quinque viae  Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Boethius, Maimonides , Cicero , Al-Kindi, Johannes Scotus Eriugena, Averroes , Anselm o Gaergaint, Albertus Magnus, Avicenna , Awstin o Hippo , Platon , Aristoteles , yr Apostol Paul , Al-Ghazali , Pab Grigor I   Edit this on Wikidata
Dydd g?yl 28 Ionawr , 7 Mawrth , Catholigiaeth   Edit this on Wikidata
Mudiad Tomistiaeth , Rhyfel cyfiawn , Ysgolaeth   Edit this on Wikidata
Tad Landulphe d'Aquino  Edit this on Wikidata

Offeiriad, athronydd, diwinydd a sant o'r Eidal oedd Thomas Aquinas , O.P. (hefyd Thomas o Aquin neu Acwin neu Aquino ; c. 1225 - 7 Mawrth 1274 ). Oherwydd ei amlygrwydd fel diwinydd, adwaenir ef hefyd fel y Doctor Angelicus, Doctor Universalis a Doctor Communis . Ystyria'r Eglwys Gatholig ef fel yr athro pwysicaf i'r rhai sy'n astudio i fynd yn offeiriaid . Mae'n fwyaf enwog am ei weithiau Summa Theologica a Summa Contra Gentiles . Ef hefyd ysgrifennodd yr emyn Sacris Solemniis sy'n cynnwys Bara Angylion Duw .

Bywgraffiad [ golygu | golygu cod ]

Ganed Aquinas yng nghastell Roccasecca yn Nheyrnas Sicilia yn yr hyn sy'n awr yn Regione Lazio . Roedd o deulu o uchel dras, ei dad, Landulf, yn Gownt a'i fam yn perthyn i linach yr Hohenstaufen . Roedd ei ewythr, Sinibald, yn abad abaty Monte Cassino , a bwriad y teulu oedd i Thomas ei olynu.

Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Napoli , lle daeth dan ddylanwad Urdd y Dominiciaid . Roedd ei delu yn anfodlon iawn ar hyn, gan ei garcharu am flwyddyn, ond wedi i'r Pab gymeryd rhan yn y mater, rhyddhawyd ef ac ymunodd a'r Urdd. Bu'n astudio yn ysgol y Dominiciaid yng Nghwlen dan Albertus Magnus , yna symudodd gydag Albertus i Brifysgol Paris . Daeth yn ddarlithydd yng Nghwlen yn 1248, a dechreuodd ysgrifennu. Bu'n darlithio ym Mharis, Rhufain a dinasoedd eraill.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]