John Jones (1818?1898),
Bangor
, Cymru, gyda'i delesgop 8-modfedd a luniodd ei hun. Mae'r ffortograff hwn allan o:
Seryddiaeth a Seryddwyr
gan J. S. Evans (Carerdydd, 1923, tud. 273,)
Telesgop adlewyrchiadol 100-modfedd (2.54 m) Hooker yn Arsyllfa Mount Wilson, ger Los Angeles, UDA.
Offeryn "i weld pell yn agos" fel y dywedodd
Ellis Wyn
yng
Ngweledigaethau'r Bardd Cwsg
yw'r
telesgop
(
ysbienddrych
oedd yr hen enw Cymraeg (neu weithiau 'sbenglas') hynny yw offeryn technegol i berson edrych ar bethau pell er mwyn eu gweld yn well. Mae'n cymryd i fewn
ymbelydredd electromagnetig
e.e.
golau
gweladwy.
Yn yr
Iseldiroedd
yn y 17g y crewyd y telesgop cyntaf, mae'n debyg; y dyfeisiad allweddol cyn hynny oedd y dulliau diweddaraf o greu'r
lens
gwydr
a
drychau
ac o fewn degawd, crewyd y telesgop adlewyrchol cyntaf.
[1]
Yn yr
20g
dyfeisiwyd nifer o delesgopau gwahanol gan gynnwys telesgopau radio yn y
1930au
a thelesgopau isgoch yn y
1960au
. Mae'r gair 'telesgop' bellach yn cyfeirio at ystod eang o offerynnau sy'n synhwyro ac yn cofnodi gwananol rannau o'r
sbectrwm electromagnetig
.
Bathwyd y term
Groeg
teleskopos
(
τηλεσκ?πο?
), gan y
mathemategydd
Giovanni Demisiani
yn 1611 i ddisgrifio un o beiriannau
Galileo
; ystyr 'tele' (
τ?λε
) ydy 'pell', ac ystyr 'skopein' (
σκοπε?ν
)ydy 'edrych'. Cafodd yr offeryn a ddisgrifiwyd ganddo ei arddangos mewn gwledd yn yr
Accademia dei Lincei
.
[2]
[3]
[4]
Yn
Negeswyr y Ser
, bathwyd y gair "perspicillum" gan Galileo, ond yn ofer.
Cydrannau'r telesgop syml
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae gwahanol fathau o delescopau ar gael sy'n caniatau'r
seryddwr
i 'weld' amywiaeth eang o'r
sbectrwm electromagnetig
:
- Y Telesgop Optig: sy'n caniatau i'r rhan weledol o'r sbectrwm electromagnetig gael ei chwyddo
- Telesgop Radio: antena sy'n edrych ar ran radio'r sbectrwm. Un o ddyfeiswyr penna ym maes awyrennau oedd y Cymro
Edward George Bowen
- Telesgop
Pelydr-x
a
Phelydr-gama
Y sbectrwm electromagnetig
[
golygu
|
golygu cod
]