한국   대만   중국   일본 
Taeog - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Taeog

Oddi ar Wicipedia
Darlun o'r Cleriwr, Marchog, Taeaog (dde) o'r Li Livres du Sante 13g

Taeog yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir a heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr arglwydd neu'r tirfeddiannwr yr hawl i orfodi'r taeog i weithio ar diroedd yr arglwydd yn ddi-dal. Ar un adeg roedd y system yn gyffredin trwy Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd, ac mewn rhai gwledydd parhaodd hyd yn 19g , er enghraifft yn Rwsia , lle rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861 .

Credir i'r system yma ddatblygu o gaethwasiaeth amaethyddol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig .

Taeogion yng Nghymru [ golygu | golygu cod ]

Yng Nghymru, nodir yng Nghyfraith Hywel fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeog heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na hawliau'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ol Cyfraith Hywel roedd sarhad taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ?r rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r Pla Du yn y 14g , pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.

Taeogaeth byd-eang [ golygu | golygu cod ]

Deiseb i ddiddymu Taeogaeth o fewn yr Ymerodraeth Hapsburgaidd, 1781

Ni ddiddymwyd taeogaeth mewn rhannau mawr o Ewrope nes ddiwedd y 18g (yn rannol yn sgil y Chwyldro Ffrengig a choncwest Napoleon o llawer o'r hen drefn fonarchaidd a yna yn hwyrach yn y 19g mewn rhannau eraill o'r cyfandir. Bu'n rhaid aros yn hwy fyth mewn rhannau eraill o'r byd nes diddymu taeogaeth.

Noder y rhestr isod o'r dyddiadau pan diddymwyd taeogaeth na unwyd y tiroedd Almaenig nes 1870 ac felly ceir gwahanol ddyddiadau ymryddhau, noder hefyd, nad oedd nifer o'r gwledydd yma'n annibynnol ar y pryd e.e. Estonia ac felly cafwyd ymryddhad fel rhan o wladwriaeth neu ymerodraeth fwy.

Taeog mewn Diwylliant Gymraeg [ golygu | golygu cod ]

Mae'r term "taeog" yn cael ei arddel mewn diwylliant Gymraeg fel term o sarhad ac yn arbennig at agwedd wasaidd at y wladwriaeth Brydeinig neu'r iaith Saesneg.

Defnyddia Dafydd Iwan y term yn ei gan enwog, Yma o Hyd [1] lle cenir

Chwythed y gwynt o'r Dwyrain
Rhued y storm o'r mor
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encor
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr! [2]

Term mewn gemau [ golygu | golygu cod ]

Caiff y term "taeog" ei arddel mewn gemau bwrdd fel gwyddbwyll a draffts i gyfeirio at y darn chwarae mwyaf elfennol a di-rym.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]