Mae
T? Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau
yn un o ddwy siambr
Cyngres yr Unol Daleithiau
; yr ail siambr yw'r
Senedd yr Unol Daleithiau
. Caiff pob talaith un cynrychiolydd yn y T? yn ol ei phoblogaeth ond caiff o leiaf un Cynrychiolydd. Ar hyn o bryd, mae gan y dalaith fwyaf poblog
Califfornia
53 cynrychiolydd. 435 yw'r cyfanswm o gynrychiolwyr sydd a'r hawl i bleidleisio. Gwasanaetha pob cynrychiolydd am ddwy flynedd. Y Llefarydd yw swyddog llywyddol y T?, a chaiff ei ethol gan aelodau'r T?.
Am fod ei aelodau'n cael eu hethol o ardaloedd llai (ar boblogaeth o 693,000 o drigolion yn 2007 ar gyfartaledd) na'r hyn a welir yn y Senedd, yn gyffredinol ystyrir y T? yn siambr llawer mwy pleidiol. Rhoddwyd p?erau unigryw i'r T? megis y p?er i gyflwyno mesurau cyllid, uchelgyhuddo swyddogion ac ethol yr arlywydd mewn achosion o anghytundeb etholiadau llwyr.
Cyfarfydda'r T? yn yr adain ddeheuol o
Capitol yr Unol Daleithiau
.